Fe ddathlir Diwrnod Dathlu Deurywioldeb ar 23 Medi gan aelodau'r gymuned ddeurywiol a'u cynghreiriaid.[1][2][3]
Mae'r diwrnod yn galw ar ddeurywiolion a'u teuluoedd, cyfeillion, a chefnogwyr i gydnabod a dathlu deurywioldeb, hanes deurywiol, cymuned a diwylliant deurywiol, a'r bobl ddeurywiol yn eu bywydau.[4][5][6]
Cychwynnodd Ddiwrnod Dathlu Deurywioldeb yn 1999[7][8] gan dri ymgyrchydd hawliau deurywiol o'r Unol Daleithiau: Wendy Curry o Maine, Michael Page o Florida, a Gigi Raven Wilbur o Texas.[9] Dywedodd Wilbur:
“ | Ers gwrthryfel Stonewall, bu'r gymuned hoyw a lesbiaidd yn cynyddu mewn nerth a gwelededd. Fe gynyddwyd y gymuned ddeurywiol mewn nerth hefyd ond mewn nifer o ffyrdd rydym dal yn anweladwy. Rydw i hefyd wedi fy nghyflyru gan gymdeithas i labeli'n awtomatig cwpl sy'n cerdded llaw yn llaw fel naill ai'n strêt neu'n hoyw, yn dibynnu ar rywedd canfyddadwy'r ddau berson. | ” |
Dechreuodd y dathliad o ddeurywioldeb yn unig, yn lle digwyddiadau LHDT cyffredinol, fel ymateb i'r rhagfarn ac ymyleiddiad o bobl ddeurywiol gan rai o fewn y cymunedau heterorywiol a LHDT.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd yn sgîl y Gymdeithas Lesbiaidd a Hoyw Ryngwladol, yn ystod wythnos y 23ain. Pan ddechreuodd roedd yn boblogaidd dim ond mewn ardaloedd gyda phresenoldeb deurywiol cryf, ond erbyn hyn fe gynhalir trafodaethau, partïon cinio a dawnsfeydd yn Nhoronto a dawns fasgiau fawr yn Queensland. Ym Mhrifysgol A&M Texas, cynhaliwyd paneli trafod a sesiynau holi-ac-ateb yn ystod yr wythnos.[10] Dathlir y diwrnod yma gan Brifysgol Princeton pob blwyddyn trwy gael parti yng Nghanolfan LHDT y brifysgol. Fe'i ddathlir hefyd yn yr Almaen, Japan, Seland Newydd, Sweden, a'r Deyrnas Unedig.[11][12][13]