![]() | |
Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Rómulo Gallegos |
Cyhoeddwr | Editorial Araluce (Barcelona) |
Gwlad | Feneswela (gwlad yr awdur) Sbaen (gwlad cyhoeddi) |
Iaith | Sbaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 15 Chwefror 1929 ![]() |
Genre | Nofel |
Nofel Sbaeneg gan y llenor Feneswelaidd Rómulo Gallegos yw Doña Bárbara a gyhoeddwyd gyntaf yn Sbaen yn 1929. Enillodd Gallegos gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae'n nodweddiadol o waith yr awdur yn ei phortread o gymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad Feneswela, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad.[1]
Cyhoeddwyd Doña Bárbara gan wasg Editorial Araluce yn Barcelona, i osgoi sensoriaeth gan lywodraeth Feneswela.
Addaswyd yn ffilm gan y cyfarwyddwr Mecsicanaidd Fernando de Fuentes, gyda María Félix yn chwarae'r brif ran, yn 1943.