Donald Winch

Donald Winch
Ganwyd15 Ebrill 1935 Edit this on Wikidata
Fulham Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Jacob Viner Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Hanesydd economaidd o Loegr oedd Donald Norman Winch (15 Ebrill 1935 – 12 Mehefin 2017).[1]

Ganwyd yn Llundain, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Sutton. Astudiodd yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Princeton. Addysgodd ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley am flwyddyn cyn iddo ddychwelyd i Brydain i ddarlithio ar bwnc economeg ym Mhrifysgol Caeredin ac yna Prifysgol Sussex. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Classical Political Economy and Colonies, ym 1965. O 1969 hyd 2000, Winch oedd athro hanes meddwl economaidd ym Mhrifysgol Sussex. Ymhlith ei lyfrau eraill mae Economics and Policy (1969), Adam Smith's Politics (1978), That Noble Science of Politics: A Study in Nineteenth-Century Intellectual History (gyda John Burrow a Stefan Collini; 1983), Riches and Poverty: An Intellectual History of Political Economy in Britain, 1750-1834 (1996), a Wealth and Life: Essays on the Intellectual History of Political Economy in Britain, 1848-1914 (2009). Ysgrifennodd hefyd Malthus: A Very Short Introduction yng nghyfres Gwasg Prifysgol Rhydychen yn 2013.

Etholwyd yn aelod o'r Academi Brydeinig ym 1986, ac roedd yn ysgrifennydd cyhoeddi'r Gymdeithas Economaidd Frenhinol o 1971 i 2016.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Stefan Collini. Donald Winch obituary, The Guardian (23 Mehefin 2017). Adalwyd ar 23 Mehefin 2017.