Doreen Valiente | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ionawr 1922 Surrey |
Bu farw | 1 Medi 1999 Brighton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | llenor, offeiriad, cyfieithydd |
Roedd Doreen Edith Dominy Valiente (4 Ionawr 1922 – 1 Medi 1999), a ddefnyddiai'r enw Ameth[1], yn ffigwr tra dylanwadol yn y grefydd neo-baganaidd sef Wica, gan ei bod yn Archoffeiriades Wica Gardneraidd ac wedi ei hynydu i Grefft Cochrane a Chwfen Atho. Cafodd hi ei hynydu i Wica gan Gerald Gardner, ac roedd hi'n Archoffeiriades Cwfen Bricket Wood.[2]
Ganwyd yn ardal Colliers Wood yn nhref Mitcham, Surrey.[3] Roedd ei thad, Harry Dominy, yn beiriannydd sifil, [4]
Cynhyrchodd Valiente llawer o destunau ysgrythurol pwysig ar gyfer Wica, megis Rŵn y Gwarchod a Siars y Dduwies, a gafodd ei ymgorffori i mewn i Lyfr y Cysgodion Gardneraidd yn gynnar. Cyhoeddodd Valiente hefyd bum lyfr ynglŷn â Wica yn ystod ei hoes. Cyfeirir ati hi yn Saesneg fel "the mother of modern Witchcraft"[5].
Bu farw yn Brighton yn 77 mlwydd oed.