![]() | |
Enghraifft o: | spacecraft model ![]() |
---|---|
Math | coden ofod, llong ofod cludo llwythi, llong ofod ailddefnyddiol ![]() |
Màs | 4,200 cilogram ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2004 ![]() |
Olynwyd gan | Dragon 2 ![]() |
Yn cynnwys | C101, C102, C103, C104, C105, C106, C107, C108, C109, C110, C111, C112, C113 ![]() |
Gwneuthurwr | SpaceX ![]() |
![]() |
Dragon yw enw teulu o longau gofod a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gan y cwmni preifat Americanaidd SpaceX. Hedfanodd aelod cyntaf y teulu, y cyfeirir ato bellach fel Dragon 1, 23 o deithiau cargo i'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) rhwng 2010 a 2020 cyn ymddeol. Nid oedd y fersiwn gyntaf hon wedi'i chynllunio ar gyfer cludo gofodwyr; fe'i hariannwyd gan NASA gyda $396 miliwn wedi'i ddyfarnu trwy'r rhaglen Gwasanaethau Cludiant Orbitol Masnachol (COTS),[1] gyda SpaceX yn cael ei gyhoeddi fel y cwmni a enillodd y rownd ariannu gyntaf ar 18 Awst 2006.
Cychwynodd SpaceX ddatblygu ei long ofod Dragon 2 yn 2014, gyda fersiwn cargo a chriw o ofodwyr. Fe'i lansiwyd am y tro cyntaf yn 2019 gyda Demo-1, a'i hediad cyntaf gyda gofodwyr ar 30 Mai 2020, fel rhan o brosiectCrew Dragon Demo-2.
Ymchwiliodd SpaceX hefyd i fersiwn o'r enw Red Dragon i archwilio'r blaned Mawrth, ond ni ddaeth dim o'r cynlluniau.
Cynigir fersiwn o'r enw Dragon XL i ddarparu Gateway Logistics Services (un o brosiectau NASA) i'r Lunar Gateway, sef gorsaf ofod a fydd yn orbitio, neu'n cylchynu'r Lleuad.
Enwodd Prif Swyddog Gweithredol SpaceX, sef Elon Musk, y llong ofod ar ôl y gân " Puff, the Magic Dragon" a sgwennwyd yn 1963 gan Peter, Paul a Mary, yn ôl pob sôn fel ymateb i feirniaid a oedd yn ystyried prosiectau hedfan Musk i'r gofod yn amhosibl.[2] Enwyd y cerbyd i ddechrau yn Magic Dragon, ac roedd crysau-t wedi'u hargraffu gyda'r enw hwn.[3] Mor hwyr â mis Medi 2012, roedd aelod o fwrdd SpaceX, Steve Jurvetson, yn dal i gyfeirio at y cerbyd fel "The Magic Dragon, Puffed to the Sea."[4] Yn 2008, cadarnhaodd Elon Musk mai'r cysylltiad rhwng y gân a mariwana oedd y rheswm y tu ôl i'r enw Dragon, gan ddweud bod "cymaint o bobl yn meddwl fy mod i'n ysmygu chwyn i wneud y fenter hon."[5]
Dragon 1 oedd fersiwn gwreiddiol y prosiect, a'i bwrpas oedd darparu gwasanaeth cludo llwythi i'r ISS. Hedfanodd 23 o deithiau rhwng 2010 a 2020, pan grewyd fersiwn 2.
Gan ddechrau yn 2014, datblygodd SpaceX SpaceX Dragon 2. Mae gan Dragon 2 amrywiad ar gyfer y criw ac amrywiad ar gyfer cludo llwyth (cargo). Dechreuodd ddarparu gwasanaeth yn 2019.