Milwr oedd yn cyfuno sgiliau'r troedfilwr a'r marchfilwr oedd dragŵn (lluosog: dragwniaid)[1] neu dragwner (lluosog: dragwners).[2] Datblygodd y dragŵn yn Ewrop ar ddiwedd y 16g, a chafodd ei ddefnyddio trwy gydol yr 17g a'r 18g.. Ymladdodd y dragŵn fel marchfilwr ysgafn pan yn ymosod, a bu'n disgyn oddi ar gefn ei geffyl pan yn amddiffyn.[3]
Benthyciad o'r enw Saesneg dragoon, sy'n dod o'r Ffrangeg dragon, yw'r enw Cymraeg. Bôn y gair yw arf y dragŵn, math o garbin neu fwsged byr a elwir yn dragon gan y Ffrancod gan iddo chwythu tân megis draig.[4] Yn wahanol i farchfilwyr eraill, trefnwyd dragwniaid mewn cwmnïau ac nid sgwadronau, ac roedd rhengoedd troedfilwyr gan y swyddogion. Ers oes rhyfeloedd cynnar Ffredrig Fawr yn yr 17g, ystyr dragŵn yw marchfilwr canolig. Enwir y mwyafrif o gatrodau marchfilwyr ysgafn y Fyddin Brydeinig yn "ddragwniaid ysgafn" yn y 18g a dechrau'r 19g. yn yr 20g addasodd y catrodau dragŵn yn ffurfiannau arfogedig yn y Fyddin Brydeinig, ac yn droedfilwyr moduraidd (dragons portés) ym Myddin Ffrainc.[3] Mae rhai catrodau arfogedig yn parháu i gadw'r enw dragŵn.[5]