Delwedd:Dream Horse poster.jpeg | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Euros Lyn |
Cynhyrchydd | Katherine Butler a Tracy O'Riordan |
Ysgrifennwr | Neil McKay |
Cerddoriaeth | Benjamin Woodgates |
Sinematograffeg | Erik Wilson |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Cornerstone Films, Film4 |
Dyddiad rhyddhau | 24 Ionawr 2020 |
Amser rhedeg | 113 mun |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Ffilm gomedi-ddrama yw Dream Horse, a gyfarwyddwyd gan Euros Lyn o sgript ffilm gan Neil McKay.
Mae'n adrodd hanes gwir y ceffyl rasio Dream Alliance a fagwyd gan y barforwyn Cymreig Jan Vokes. Heb arian na phrofiad, perswadiodd ei chymdogion i fridio a meithrin ceffyl i rasio gyda'r goreuon. Aeth y ceffyl ymlaen i rasio yn y Grand National Cymreig. Mae'n serennu Toni Collette fel Jan Vokes a Damian Lewis fel Howard Davies.[1] Cafodd y ffilm ei première byd ar 24 Ionawr 2020.[2]