Drygarn Fawr

Drygarn Fawr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr645 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.21214°N 3.66571°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN8629058414 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd257 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaPumlumon Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd Cambria Edit this on Wikidata
Map

Drygarn Fawr yw un o fryniau uchaf yr Elenydd, ym Mhowys, canolbarth Cymru. Mae'n sefyll 645 m (2116') uwch lefel y môr. Cyfeirnod OS: SN862584.

Gan godi yng nghanol rhosdiroedd gwyrdd ucheldiroedd yr Elenydd, coronir y copa gan garnedd amlwg. Mynydd glaswelltog ydyw, gyda llethrau agored ac ychydig o gerrig ger y copa, sy'n cynnig golygfeydd eang dros orllewin a chanolbarth Cymru pan fo'r tywydd yn ffafriol.

Ceir dau lwybr i'r copa. Gan gychwyn o Llannerch Yrfa, mae llwybr i geffylau yn ymddolenni i fyny trwy goedwigoedd Nant y Fedw i gyrraedd llethrau deheuol y mynydd. Dewis amgen yw cychwyn o Rhiwnant wrth ymyl Cronfa Caban Coch a dilyn afonig Nant Paradwys a throi i'r gorllewin am y garnedd ar y copa.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Hewitt. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 645 metr (2116 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]