Duegredynen gwallt y forwyn | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Polypodiales |
Teulu: | Aspleniaceae |
Genws: | Asplenium |
Rhywogaeth: | A. trichomanes |
Enw deuenwol | |
Asplenium trichomanes L. |
Rhedynen fach sy'n tyfu mewn lleoedd creigiog ac ar furiau yw duegredynen gwallt y forwyn (Asplenium trichomanes). Fe'i ceir ledled y byd mewn rhanbarthau tymherus ac is-arctig a hefyd ar fynyddoedd uchel yn y trofannau. Mae ei ffrondiau'n hir a chul ac maent yn 5–35 cm o hyd. Mae ganddynt goes ddu neu frown a hyd at 30 o barau o ddeilios gwyrdd.