Dwysiambraeth yw'r arfer o gael dwy siambr ddeddfwriaethol fel rhan o ddeddfwrfa gwladwriaeth neu dalaith. Yn yr ystyr hwn, senedd dwysiambr [1] yw senedd neu gyngres sydd â dwy siambr: y "siambr isaf, a elwir fel arfer yn "Gynulliad Cenedlaethol", a "senedd", "siambr dirprwyon", ac ati, a "siambr uchaf", a elwir fel arfer yn senedd. Mae Iwerddon a San Steffan yn esiamplau o hyn.
Gelwir y system lle nad oes ond un siambr (fel Senedd Cymru) yn unsiambraeth.
Er y gellir olrhain gwreiddiau dwysiambraeth yn ôl i amser Gwlad Groeg Glasurol a'r Ymerodraeth Rufeinig, ymddangosodd seneddau deusiambriog eu hunain yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol, pan oedd yn gysylltiedig â chynrychiolaeth gwahanol daleithiau teyrnas.
Mae dwysiambraeth gyfoes yn dyddio nôl i'r 17g a'r 18g.[2] Gwrthododd sylfaenwyr Unol Daleithiau America unrhyw syniad o gynrychiolaeth ar wahân ar gyfer pendefigaeth gymdeithasol, ond fe wnaethant dderbyn creu Deddfwrfa dwysiambr, Cyngres yr Unol Daleithiau ("The United States Congress"). Ceir yma dau siambr:
Ers hynny, mae gwladwriaethau ffederal wedi dewis dwysiambraeth, yn enwedig pan fydd yn angenrheidiol, yn dibynnu ar wahaniaethau rhanbarthol, bod pob rhanbarth neu diriogaeth y wlad yn cael ei gynrychioli'n ddigonol. Fodd bynnag, arhosodd yr hen gyfiawnhad dros fodolaeth siambr isaf yn y syniad o gyfle newydd i gael ail farn ar faterion deddfwriaethol.
Mae'r perthnasoedd rhwng y ddau siambr yn amrywio. Mewn rhai achosion mae ganddyn nhw bwerau cyfartal ond mewn eraill mae siambr yn amlwg yn rhagori. Yn y systemau ffederal ac arlywyddol mae cydraddoldeb y siambr yn ymddangos yn bennaf. Cyflwynir goruchafiaeth siambr yn systemau llywodraeth seneddol.
Esboniodd yr newyddiadurwr, Walter Bagehot, y ddadl dros Ddeddfwriaeth deusiambriog:
A formidable sinister interest may always obtain the complete command of a dominant assembly by some chance and for a moment, and it is therefore of great use to have a second chamber of an opposite sort, differently composed, in which that interest in all likelihood will not rule.
Cyflwynwyd nifer o resymeg o blaid dwysiambraeth.
Mae rhai gwledydd, megis Awstralia, yr Ariannin, Mecsico, Unol Daleithiau America, India, Brasil a'r Almaen, yn cysylltu eu systemau dwysiambriog â'u strwythur gwleidyddol ffederal.
Felly, yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, Brasil a Mecsico mae gan bob gwladwriaeth nifer penodol o seddi yn y siambr uchaf waeth beth yw'r boblogaeth sydd gan y dalaith honno. Gwnaethpwyd hyn i sicrhau nad yw taleithiau llai yn cael eu goddiweddyd gan rai mwy poblog. Yn y tŷ isaf mae'r seddi'n cael eu dosbarthu ar sail poblogaeth pob gwladwriaeth yn unig.
Mewn rhai gwledydd mae dwysiambraeth yn cynnwys cyfosod elfennau democrataidd ac aristocrataidd. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw'r Deyrnas Unedig, lle mae Tŷ'r Arglwyddi yn cynrychioli olion o'r system aristocrataidd a fu unwaith yn bennaf yng ngwleidyddiaeth Prydain tra bod Tŷ'r Cyffredin yn cynnwys ASau etholedig.
Nid yw llawer o systemau deusiambriog yn gysylltiedig â ffederaliaeth na'r uchelwyr. Yng ngwledydd De America, Japan, Ffrainc, Ynysoedd y Philipinau neu Gweriniaeth Iwerddon y system deusiambriog sy'n bodoli, er eu bod yn wladwriaethau unedol. Mewn gwledydd fel y rhain, dim ond at ddibenion goruchwylio ac, yn eithriadol, rhoi feto ar benderfyniadau'r tŷ isaf, y mae'r tŷ uchaf yn bodoli. Maent yn gyffredinol gyfartal yn wleidyddol, ac eithrio wrth baratoi'r gyllideb genedlaethol. Rhaid i'r gangen weithredol anfon y gyllideb ddrafft i'r siambr isaf, sy'n ei thrafod a'i chymeradwyo yn ei gweithdrefn gyntaf, gan ei hanfon i'r siambr uchaf i'w hadolygu a'i chymeradwyo wedi hynny.
Yn 2013 cafwyd refferendwm yng Ngweriniaeth Iwerddon ar symud oddi ar system dwysiambriog i un unsiambriog gan gael gwared ar Seanad Éireann (yr ail siambr). Pleidleisiodd y dinasyddion o blaid cadw'r system dwysiambriog.[4]
Noder y siambr isaf yn gyntaf ac yna'r ail siambr yn ail: