Dyddiau poethaf a mwyaf llaith yr haf yw dyddiau'r cŵn.[1] Daw'r enw o godiad heuligol Seren y Ci ar yr adeg hon o'r flwyddyn.[2] Ceir dyddiau'r cŵn ym misoedd Gorffennaf, Awst, a Medi cynnar ar ledred tymherus yn hemisffer y gogledd.[3]
Mae'r enw yn dyddio'n ôl i'r Eifftwyr, y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, oedd i gyd yn credu taw Seren y Ci (Sirius) – sy'n codi ar yr un pryd â'r haul yn yr haf – sy'n codi'r tymheredd ac yn achosi'r tywydd poeth.[3] I'r Rhufeiniaid, 3 Gorffennaf i 11 Awst oedd cyfnod dyddiau'r cŵn (Lladin: caniculares dies).[4] Roedd pobl yr henfyd hefyd yn credu bod cŵn yn fwy tebygol o gael y gynddaredd yn ystod y tymor hwn. Honnir i Seren y Ci gael effaith niweidiol ar ddynoliaeth gan fod pobl yn tueddu i golli eu hegni yn ystod dyddiau poetha'r flwyddyn.[3]