Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 2 Tachwedd 1938 |
Gwlad | Hwngari Tsiecoslofacia |
Lleoliad | Fienna, Belvedere |
Gwladwriaeth | Awstria |
Rhanbarth | Fienna |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Dyfarniad Gyntaf Fienna a gynhaliwyd ym Mhalas Belvedere yn Fienna ar 2 Tachwedd 1938 yn ganlyniad uniongyrchol i Gytundeb München (30 Medi 1938), ac yn gytundeb tiriogaethol y daethpwyd iddo trwy gyfryngu a phwysau gan yr Almaen Natsïaidd rhwng Hwngari ac i Tsiecoslofacia. Newidiodd y Cytundeb y ffiniau rhwng Hwngari a Tsiecoslofacia ar sail dosbarthiad ethnig. Gan hynny, wrthdrowyd peth o golledion a ddioddefodd Hwngari yn Nghytundeb Trianon yn 1920 a amddifadodd Hwngari o tua 70% o'r diriogaeth a reolai drosti fel rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari; tiriogaeth a adnebir weithiau fel Hwngari Fawr.
Roedd Gwobrwyad Gyntaf Fienna ac Ail Ddyfarniad Fienna yn rhan o Gyflafareddiadau Fienna. Nacadwyd y Dyfarniadau gan Gytundeb Paris yn 1947 wedi'r Ail Ryfel Byd.
Hyd at Gyflafareddu Fienna, roedd yr Almaen Natsïaidd a'r Eidal ffasgaidd yn chwilio am ffordd ddi-drais i orfodi gwireddu tiriogaethol Hwngari gan wirdroi rhan helaeth o Gytundeb Trianon 1920. Erbyn 1938 roedd yr Almaen Natsïaidd wedi gwirdroi nifer o'r colledion tiriogaethol a orfodwyd arni yng Nghytundeb Versailles gan ennill refferendwm i adennill rhanbarth y Saarland oddi ar dominyddiaeth Ffrainc ar 13 Ionawr 1935, ail-feddiannu'r Rheinland ar 7 Mawrth 1936, ac meddiannu Awstria ar 12 Mawrth 1938 - yr Anschluss.
Yng ngwanwyn 1938, er mwyn osgoi gwrthdaro amhriodol posibl rhwng Hwngari dan reolaeth y Cadfridog Miklós Horthy, ac yn bryderus iawn â cholli'r cyfle i adfer tiriogaethau coll ar ôl y Rhyfel Mawr fel y digwyddodd ym München, a'r Ail Weriniaeth Tsiecoslofacia dan arweiniad Emil Hácha, cynghorodd Hitler i Hwngari a'r hyn oedd yn weddill o Tsiecoslofacia i ddod i gytundeb ar y ffin yn seiliedig ar ethnigrwydd.[1]
Hawliodd yr Hwngariaid oddi ar Tsiecoslofacia ardal o 14,106 km² gyda 1,356,000 o drigolion, gyda 678,000 ohonynt yn Hwngariaid (60%) a'r gweddill, 553,000 o Slovaks a 125,000 o Rwtheniaid, gyda grwpiau bach o Tsieciaid, Almaenwyr ac Iddewon.[2] Nid oedd Hwngari, o'i rhan, gan na drosglwyddwyd Bratislava (Pozsony yn Hwngareg a sedd prifddinas Hwngari am gyfnod byr yn yr Oes Modern Cynnar) na'r ffaith na chyflawnodd amsugniad llwyr o Rwthenia (a ddigwyddodd y flwyddyn ganlynol yn unig, ar 23 Mawrth 1939, yn Ail Ddyfarniad Fienna). Gwrthowyd hyn gan Tsiecslofacia.
Ym mis Hydref 1938, roedd yn amlwg na fyddai'r ddwy wlad yn gallu dod i gytundeb a phenderfynodd Hitler gyfeirio'r mater at 'gyngor' Pwerau'r Echel - Yr Almaen (gan gynnwys Awstria, bellach) a'r Eidal dan reolaeth Benito Mussolini. Ni gafwyd gwrthwynebwyd gan bwerau'r Gorllewin (Ffrainc a Phrydain). Diffiniodd y cyfaddawd a gyrhaeddwyd ar 2 Tachwedd 1938 gan weinidogion Materion Tramor, yr Almaenwr Joachim von Ribbentrop a Galeazzo Ciano yr Eidal. Byddai'r ffin newydd yn fwy adlewyrchiol o'r terfynau ethnig na hen ffin dan Gytundeb Trianon, a gyda hynny llwyddodd Ciano i gynyddu ychydig ar y diriogaeth a neilltuwyd i Hwngari.[1]
Serch anhapusrwydd Hwngari gyda Gwobr Gyntaf Fienna, bu iddi ennill tiriogaethau â phoblogaeth Magyar yn ne Slofacia a de Trawscarpatia - ardal a adnabwyd i'r Hwngariaid fel "Hwngari Uchaf". Llwyddodd Hwngari i adfer rhai o diriogaethau Slofacia a'r Wcráin heddiw, a gollwyd ganddynt o dan Gytundeb Trianon ar ôl y rhyfel trwy ddiddymu'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari.
Roedd yn ofynnol i Tsiecoslofacia ildio'r tiriogaethau yn ne Slofacia a de Carpatia Rwthenia i'r de o'r llinell (ac yn cynnwys trefi) Senec (Szenc), Galanta (Galánta), Vráble (Verebély), Lefis (Léva), Lučenec (Losonc) , Rimavská Sobota (Rimaszombat), Jelšava (Jolsva), Rožnava (Rozsnyó), Košice (Kassa), Michaľany (Szentmihályfalva), Veľké Kapušany (Nagykapos), Uzhhorod (Ungvvo), a Muzia). Collodd Slofacia 10,390 km² gyda 854,277 o drigolion [3] - 503,980 o Hwngariaid (58,99%), 272,145 o Slofaciaid neu Tsieciaid (32,43%), 26,151 o Iddewon (3,06%), 8,947 o Almaenwyr (1,05%), 1,825 Rwtheniaid, 14,617 o ddinasyddion tramor eraill a 26,005[4] (yn ôl cyfrifiad Tsiecoslofacia o 1930). O ystyried y tŵf cyfartalog yn y boblogaeth ers y cyfrifiad diwethaf, mae'n bosibl amcangyfrif cyfanswm maint y boblogaeth ar adeg y cyflafareddiad ar 935,000 o bobl, gyda 300,000 ohonynt yn Slofaciaid a Tsieciaid. Collodd Tsiecoslofacia diriogaeth ychwanegol yn Rwthenia Carpatia.
Ymunodd Slofaciaid yn y diriogaeth "newydd" â'r lleiafrif Slofac oedd yn bresennol yn Hwngari, tra mai dim ond tua 60,000 o Hwngariaid [5] oedd ar ôl yn y rhan o Slofacia nad oedd wedi'i atodi. Nid oedd y ffin newydd yn parchu egwyddor ffiniau ethnig y gofynnodd Hwngari amdani fel "cywiriad anghyfiawnderau Cytundeb Trianon" na chyfrifiad Hwngari o 1910. Digwyddodd y troseddau amlycaf o egwyddor ethnig mewn ardaloedd o amgylch Nové Zámky - Vráble-Hurbanovo, yr ardal o amgylch Jelšava a'r ardal o amgylch Košice. Dim ond 8 o 79 o bentrefi o amgylch Košice oedd â phoblogaeth fwyafrifol Hwngari, [5] wrth ymyl 42,245 Slofaciaid yn Košice. Collodd Tsiecoslofacia'r cysylltiad rheilffordd uniongyrchol â Rwthenia Carpatia ac i Rwmania.
Cymerodd Jozef Tiso (un o ddirprwyaeth Tsiecoslofacia a ddaeth, maes o law, yn Arlywydd Slofacia annibynnol dan oruchwiliaeth y Natsiaid) y canlyniad fel methiant personol yn enwedig gan nad oedd wedi trefnu gwacáu Košice. [6] Cyhoeddodd ganlyniadau’r wobr ar y radio yn hwyr gyda’r nos a beio’r llywodraeth ganolog am ei pholisi tymor hir, ond derbyniodd y canlyniad.[7]
Meddiannwyd y tiriogaethau gan fyddin Hwngari, yr honvéd (HwngaregLll: Királyi Honvédség) rhwng 5 a 10 Tachwedd 1938. Ar 11 Tachwedd, aeth Rhaglaw Hwngari, Miklós Horthy, i mewn i'r brif dref, Košice (Kassa).
Ymgorfforwyd diriogaethau "Hwngari Uchaf" (Felvidék yn Hwngareg; llyth.: "Ucheldir") a adferwyd yn Hwngari ar 12 Tachwedd 1938, gan ddeddf gan Senedd Hwngari. Yn dilyn trefn siroedd hynafol Teyrnas Hwngari, rhannwyd y diriogaeth dan feddiant yn ddwy sir newydd gyda seddi yn Nové Zámky a Lefis, tra daeth rhai tiroedd yn rhan o siroedd eraill Hwngari.
Ganol mis Mawrth 1939 cafwyd Ail Ddyfarniad Fienna, lle rhoddodd Adolf Hitler ganiatâd i Hwngari feddiannu gweddill Transcarpatia, i'r gogledd hyd at y ffin â Gwlad Pwyl, a thrwy hynny greu ffin gyffredin rhwng Hwngari a Gwlad Pwyl, gan eu bod yn bodoli cyn y 18g cyn Rhaniadau Gwlad Pwyl.