Dymphna Cusack

Dymphna Cusack
Ganwyd22 Medi 1902 Edit this on Wikidata
West Wyalong Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1981 Edit this on Wikidata
o Sglerosis ymledol Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Prifysgol Sydney Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, dramodydd, cofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCome In Spinner Edit this on Wikidata
Gwobr/auAelod o Urdd Awstralia Edit this on Wikidata

Awdures o Awstralia oedd Dymphna Cusack (22 Medi 190219 Hydref 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, dramodydd, cofiannydd a nofelydd.[1]

Ganwyd Dymphna Cusack yn Wyalong, New South Wales. Roedd ei brawd, John hefyd yn awdur a chyhoeddodd y nofel, They Hosed Them o dan y ffugenw John Beede yn 1965.[2] Chwaraeodd Cusack ran allweddol yn hyrwyddo traddodiadau democrataidd, blaengar ei hoff wlad, ac roedd yn boblogaidd iawn fel siaradwraig yn Awstralia ac fel sylwebydd diwylliannol yn ystod y cyfnodau hir y bu'n aros yn Ewrop o'r 1940au i'r 1970au.[3]

Graddiodd Dymphna Cusack yn y Celfyddydau o Brifysgol Sydney ac yno hefyd yr enillodd ddiploma mewn addysg. Bu'n gweithio fel athrawes hyd nes iddi ymddeol yn 1944 oherwydd rhesymau iechyd. Ysgrifennodd Cusack ddeuddeg o nofelau ac un-ar-ddeg o ddramau; cafodd ei nofel Come in Spinner ei chynhyrchu fel cyfres deledu gan Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia yn 1989, ac fe'i darlledwyd ym mis Mawrth 1990. A hithau'n frwd dros ddiwygio cymdeithasol roedd disgrifio'r angen am ddiwygio yn nodwedd gyffredin yn ei gweithiau. Derbyniodd gydnabyddiaeth Member of the Order of Australia yn 1961 am ei chyfraniad i lenyddiaeth Awstralia. Roedd hefyd ymhlith yr awduron a sefydlodd yr Australian Society of Authors yn 1963, ac ymhlith yr un-ar-ddeg o awduron, yn cynnwys Elizabeth Jolley a Manning Clarke i gael eu cydnabod gyda phlac pres ar Rodfa'r Awduron yn Sydney.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Marilla North (2007), "Cusack, Ellen Dymphna (Nell) (1902–1981)", Australian Dictionary of Biography, National Centre of Biography, Australian National University, http://adb.anu.edu.au/biography/cusack-ellen-dymphna-nell-12385, adalwyd 18 May 2015
  2. Cusack, J.B. (2012), They Hosed Them Out, Wakefield Press, ISBN 9781743051061, https://books.google.ca/books?id=g0S4V3TR6tEC
  3. Peitzker, Tania. (2000) "Introduction." "Dymphna Cusack (1902–1981): a Feminist Analysis of Gender in her Romantic Realistic Texts." Potsdam: University of Potsdam.