Dyn Indalo

Dyn Indalo
Enghraifft o:paentiad ogof Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dyn Indalo
Extremo AL-12

Mae'r Indalo yn symbol hud, cyn-hanes a ddarganfwyd mewn ogof yn Los Letreros ('Yr Arwyddbyst') yn Mharc Natur Sierra de María-Los Vélez yn Vélez Blanco, Almería, rhanbarth Andalucía, Sbaen. Daeth yn draddodiad i baentio symbol y Dyn Indalo ar flaen tai a busnesau i'w hamddiffyn rhag niwed ac fe'i hysytrir yn dotem duwiol (yn yr un ffordd ag y mae'r symbol Kokopelli yn ne-orllewin UDA.[1]

Gwreiddiau

[golygu | golygu cod]

Mae gwreiddiau'r indalo yn ardal Levante, Sbaen ac mae'n dyddiol yn ôl i 2500 CC. Yn ôl rhai, enwyd y pictograff er cof am Sant Indaletius, a'i ystyr yw Indal eccius (Negesydd y Duwiau) yn yr iaith Ibereg, yr iaith neu deulu ieithyddol cyn-Lladin a fodolai yn llawer o Iberia gyfoes.

Darganfuwyd ogof Los Letreros, ac yn fwy penodol yr indalo, ym 1868 gan ŵr o Almería, Manuel de Góngora y Martínez. Datganwyd yr ogof hon, sy'n rhoi cysgod i indalo, yn heneb hanesyddol-artistig genedlaethol yn 1924.[2]

Puerta del Mar, rhanbarth Valencia

Am ganrifoedd, cyn cyflwyno'r indalo gan yr ysgolheigion, roedd yn symbol o lwc dda ac yn ystyried totwm yn y gogledd a'r dwyrain o dalaith Almeria, yn enwedig yn Mojácar, lle mae wedi peintio gydag almagre i amddiffyn tai rhag stormydd a'r 'llygad ddrwg'. Fe'i gelwid yn ddol mojambel.

Yng nghanol y 20g, fe'i cymerwyd fel symbol i fudiad deallusol a darluniadol dan arweiniad Iesu de Perceval, disgyblaeth lled-anarchistaidd, o weledigaeth i ardal Môr Canoldir yr athronydd Eugeni d'Ors. Am ei ran, honnodd Perceval fod yr inadlo yn symbol tragwyddol o adfywiad ac adnewyddu cylchol.

Chwedl

[golygu | golygu cod]

Yn ôl y chwedl, roedd yr Indalo yn ysbryd a allai ddal a chario'r enfys ar ei ben (wele'r bwa dros ei ben). Mae'r indalo wedi ei fabwysiadu fel symbol swyddogol talaith Almería, yn Sbaen.[3] Defnyddir yr Indalo fel symbol swyn lwcus yn Almería. Mae cario'r symbol hefyd yn dod â lles os yw wedi ei roi fel rhodd.

Cred rhai hefyd yr hanes fod y Dyn Indalo yn ddyn a ddihangodd fewn i ogof i ddianc rhag y glaw. Pan ddarfu'r glaw ac enfys yn ymddangos cerddodd y dyn allan o'r ogof gan adael ddelwedd ar ei ôl ar fur y graig.

Defnydd Poblogaidd

[golygu | golygu cod]

Mae corff hawliau diwylliannol brodorion Undol Daleithiau America, 'Cultural Survival' yn defnyddio'r Indalo fel ei logo.

Gwelir y ddelwedd o'r Dyn Indalo wedi ei baentio ar hyd ffyrdd yn ystod y ras seiclo y Tour de France. Bydd hyn fwyaf cyffredin wrth i'r ras agosáu at fynyddoedd y Pyreneau, megis Gwlad y Basg.

Mae'r indalo yn bresennol mewn llawer o logos, enwau cwmnïau neu siopau yn gyffredinol sy'n gysylltiedig ag Almería.

Yn y ffilm Conan the Barbarian (1982), gwelir y prif actor, Arnold Schwarzenegger, mewn golygfa gyda llu o indalos fel rhan o ddefod gyfrin. Rhaid cofio i'r ffilm gael ei saethu'n bennaf yn Almeria.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.andalucia.com/province/almeria/indalo/home.htm
  2. Nodyn:Ref-llibre
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-07. Cyrchwyd 2018-07-29.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Mudiad Hawliau Brodorol, Cultural Survival