Dyneiddiaeth y Dadeni

Darluniad gan Leonardo da Vinci o'r "dyn Fitrwfaidd" (L'uomo vitruviano, tua 1490) sydd yn dangos cydberthynas rhwng mesuriadau'r corff a geometreg, gan dynnu ar waith y pensaer Rhufeinig Vitruvius.

Prif fudiad deallusol y Dadeni Dysg oedd dyneiddiaeth y Dadeni a oedd yn adfer syniadau'r oes glasurol yn Ewrop, hynny yw yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid. Astudiaethau dyneiddiol (studia humanitatis) oedd yr enw ar bynciau gramadeg (yn hanesyddol, gramadeg Lladin), rhethreg, athroniaeth foesol, barddoniaeth, ac hanes, term sydd yn debyg i'r dyniaethau heddiw. Dechreuodd yn yr Eidal yn y 14g fel ymateb i ddysgeidiaeth yr athronwyr ysgolaidd, a oedd yn rheoli'r prifysgolion Cristnogol yn yr Oesoedd Canol, ac ymledodd ar draws Gorllewin Ewrop yn y 15g a'r 16g. Credasant y dyneiddwyr bod clasuriaeth yn fwy perthnasol i brofiadau pob dydd nac astudiaethau haniaethol y prifysgolion, megis rhesymeg, metaffiseg, ac athroniaeth naturiol, a bod gwersi'r hen Roegwyr a Rhufeiniaid o fudd felly i'r dosbarthiadau llywodraethol. Nod y dyneiddwyr oedd adfywio ysgolheictod clasurol ac i efelychu delfrydau a themâu'r hen wareiddiadau.

Mae'n debyg i ddyneiddiaeth ymddangos o ganlyniad i dwf dinas-wladwriaethau yng ngogledd a chanolbarth yr Eidal yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Nid oedd hen arferion a diwylliant y glerigiaeth a'r pendefigion milwrol yn addas at y drefn ddinesig newydd. Dechreuodd yr adfywiad clasurol yn llên yr Eidalwyr, yng ngwaith beirdd megis Dante Alighieri a Francesco Petrarca a dynasant ar themâu ac arddulliau llenyddiaeth Ladin hynafol. Erbyn diwedd y 14g roedd dyneiddiaeth yn fudiad deallusol y tu hwnt i lenyddiaeth, a chafodd ddylanwad ar y gyfraith, diplomyddiaeth, a byd masnach drwy lythyrau, areithiau, a dogfennau Lladin. Bu rhai dyneiddwyr, megis Coluccio Salutati a Leonardo Bruni yn Fflorens, yn efelychu gweriniaetholdeb aristocrataidd yn ôl Cicero a gwleidyddion Rhufeinig eraill, ond yn gyffredinol nid oedd dyneiddiaeth yn ideoleg weriniaethol na breniniaethol.[1]

Yn niwedd y 14g ail-ddarganfuant ysgolheigion lenyddiaeth Hen Roeg, ac aeth y dyneiddwyr ati i chwilio am lawysgrifau coll o athronwyr, beirdd, dramodwyr, ac hanesyddion Groeg yr Henfyd. Ffynnodd dyneiddiaeth yn sgil dyfeisio'r wasg argraffu yng nghanol y 15g, a datblygwyd technegau beirniadol soffistigedig yn ysgrifeniadau'r dyneiddwyr. Ymledodd y Dadeni i'r gogledd yn niwedd y 15g, a datblygodd ffurf arni a elwir dyneiddiaeth Gristnogol neu ddyneiddiaeth Feiblaidd sydd yn manteisio ar ysgolheictod clasurol y Dadeni i ddiwygio'r eglwys ac adnewyddu'r ffydd. Cafodd y mudiad hwn ddylanwad mawr ar y Diwygiad Protestannaidd, ac ymhlith ei ddiwinyddion oedd Lefèvre d’Etaples ac Erasmus.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 201–4.