Athrawiaethau'r Eglwys Gatholig ynglŷn â moeseg gymdeithasol, urddas y ddynolryw, a lles cyffredin yw dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig. Mae'n ymdrin â gormes, rôl y wladwriaeth, datganoliaeth, trefnu cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol, a dosraniad cyfoeth. Dechreuodd dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig fodern yn sgil cyhoeddi'r cylchlythyr Rerum Novarum gan y Pab Leo XIII yn 1891, sy'n dadlau dros ddosraniadaeth economaidd. Mae'n adeiladu ar hen gorff o ddiwinyddiaeth a syniadaeth foesegol gan ysgrifenwyr Catholig, yn eu plith Tomos o Acwin ac Awstin o Hippo, yn ogystal â'i phrif ffynhonnell y Beibl a thraddodiad yr Eglwys Gristnogol sy'n olrhain ei hanes i'r Dwyrain Agos hynafol.[1]
Nodweddir dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig gan feirniadaeth o fodernedd ac ideolegau'r adenydd chwith a dde. Ers diwedd y 19g, mae sawl pab wedi lladd ar agweddau o syniadaeth a mudiadau rhyddfrydiaeth, comiwnyddiaeth, ffeministiaeth,[2][3] anffyddiaeth,[4] sosialaeth,[5] ffasgaeth, cyfalafiaeth,[5] a Natsïaeth.[6]
Gorchmynnir dysgeidiaeth gymdeithasol yr Eglwys Gatholig gan gylchlythyrau'r Pab. Ymhlith y prif gylchlythyrau mae:
Mae dealltwriaeth yr Eglwys Gatholig o gyfiawnder cymdeithasol yn galw ar lywodraethau i ystyried amodau ac anghenion y bobl dlotaf a'r rhai dan anfantais yng nghymdeithas.
Mudiad Catholig a ddechreuodd yn America Ladin yn hwyr yr 20g yw diwinyddiaeth rhyddhad, sy'n ceisio helpu'r tlawd a lleiháu anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol. Datgenid pryderon am anghyfiawnderau'r gyfundrefn gyfalafol ryngwladol yng Nghynadleddau Esgobol America Ladin (CELAM) ym Medellín (1968) ac yn Puebla (1979). Mae rhai agweddau o ddiwinyddiaeth rhyddhad yn tynnu ar ddadansoddiadau Marcsaidd o strwythur cymdeithas.
Mae sawl agwedd o ddysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig, yn enwedig y pethau sy'n ymwneud ag ymddygiad rhywiol, yn bynciau llosg ym myd y Gorllewin. Mae'r Eglwys yn condemnio cyfunrywioldeb, erthyliad, a rheoli cenhedlu. Mae dysgeidiaeth yr Eglwys hefyd yn groes i hunanladdiad ac ewthanasia.
Catholic institutions are often dependent upon the generosity of benefactors who are politically and religiously conservative, wary of or outright disapproving of feminism. Catholic traditions and current official church stands are at odds with many feminist positions.
Other feminist concerns, such as changes in sexist language, have been an issue for almost a decade in the Roman Catholic Church and most other churches as well.
2123 'Many... of our contemporaries either do not at all perceive, or explicitly reject, this intimate and vital bond of man to God. Atheism must therefore be regarded as one of the most serious problems of our time.'