Esmwytho perthynas dan straen, yn enwedig yng ngwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, yw détente (Ffrangeg am "ymlaciad") neu ddatynhad.[1] Defnyddir y term yn amlaf yng nghyd-destun cysylltiadau rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau yn y 1970au yng nghanol y Rhyfel Oer.