![]() | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Ellen Wood ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Genre | ffuglen emosiynol ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Nofel Saesneg o 1861 yw East Lynne, or The Earl's Daughter gan Ellen Wood a ysgrifennodd gan ddefnyddio'r enw Mrs. Henry Wood. Yn ei ddydd roedd y llyfr yn hynod o boblogaidd. Fe'i cofir yn bennaf am ei chynllwyn cymhleth ac annhebygol sy'n canolbwyntio ar anffyddlondeb a hunaniaethau cudd. Wedi hynny derbyniodd y stori nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan a'r sinema yn Lloegr a'r Unol Daleithiau. Er bod y stori felodramatig yn cael ei gwatwar yn aml, roedd yr addasiadau hyn yn boblogaidd iawn am ddegawdau.
Ymddangosodd y nofel am y tro cyntaf fel stori gyfresol yn The New Monthly Magazine o Ionawr 1860 hyd Fedi 1861, ac fe'i cyhoeddwyd fel llyfr mewn tair cyfrol ar 19 Medi 1861.
Enwyd y tref East Lynne, Missouri, Unol Daleithiau America, a sefydlwyd ym 1871, ar ôl y nofel.[1]