![]() Porthdy i Eastwell Park | |
Math | pentrefan, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Ashford |
Poblogaeth | 91 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Boughton Aluph and Eastwell ![]() |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3.62 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 51.1934°N 0.8713°E ![]() |
Cod SYG | E04004837 ![]() |
Cod OS | TR009473 ![]() |
Cod post | TN25 ![]() |
![]() | |
Pentrefan a phlwyf sifil yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Eastwell. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Ashford. Gorwedd y plwyf yn union i'r gogledd o dref Ashford.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 103.[1]
Mae'r plwyf yn rhannu cynghorau plwyf sifil a phlwyf eglwys gyda Boughton Aluph cyfagos.
Cwympodd llawer o Eglwys y Santes Fair, yr eglwys blwyf ganoloesol, ym 1951, a dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r adfeilion ym 1956. Dim ond y twr gorllewinol o'r 15g, wal orllewinol yr ystlys deheuol, a chapel daerawd o'r 19g sy'n dal i sefyll. Er 1980 mae'r gweddillion wedi bod yn Heneb Gofrestredig o dan ofal yr elusen Friends of Friendless Churches.
Ystâd wledig fawr a maenordy yn y plwyf sifil yw Eastwell Park. Adeiladwyd y maenordy yn wreiddiol rhwng 1540 a 1550 ar gyfer Syr Thomas Moyle, comisiynydd Harri VIII yn ystod cyfnod diddymu'r mynachlogydd. Codwyd tŷ newydd yn y 18g. Cafodd hyn ei ymestyn yn y 19g, ei ddifrodi gan dân yn y 1920au, a'i ailadeiladu ar raddfa lai ym 1926–8. Adeiladwyd y porthdy, a elwir bellach yn "Eastwell Towers", ym 1848.