Edward de Bono | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 19 Mai 1933 ![]() Malta ![]() |
Bu farw | 9 Mehefin 2021 ![]() Malta ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, seicolegydd, athronydd, academydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Ysgoloriaethau Rhodes, doctor honoris causa ![]() |
Gwefan | https://www.debono.com ![]() |
Meddyg, seicolegydd, awdur, dyfeisiwr ac athronydd Maltaidd oedd Edward Charles Francis Publius de Bono (19 Mai 1933 – 9 Mehefin 2021)[1][2]. Cychwynnodd e'r term "meddwl ochrol". Ysgrifennodd de Bono Six Thinking Hats (1985), ac roedd yn gefnogwr o ddysgu meddwl fel pwnc mewn ysgolion.[3]
Cafodd Edward de Bono ei eni ym Malta.[4] Cafodd ei addysg yng Ngholeg St Edward, Malta, yna enillodd radd feddygol o Brifysgol Malta. Aeth ymlaen fel Ysgolor Rhodes i Eglwys Crist, Rhydychen, lle enillodd MA mewn seicoleg a ffisioleg. Cynrychiolodd Rydychen mewn polo a gosod dau record canŵio. Cafodd gradd PhD mewn meddygaeth o Goleg y Drindod, Caergrawnt.[5]