Effaith Streisand yw'r ffenomenon lle canlyniad rhyw gais i guddio, dileu, wahardd neu sensro darn o wybodaeth, yw'r tynnu mwy o sylw at y wybodaeth yna, fel arfer oherwydd y we.[1] Mae'n enghraifft o adweithedd seicolegol, lle unwaith mae pobl yn sylweddoli bod gwybodaeth yn cael ei chuddio rhagddynt nhw, mae eu cymhelliad i weld a lledeuni'r gwybodaeth yna yn cynyddu.[2]
Mike Masnick o Techdirt pennodd yr enw[3] yn 2005 ar ôl i le gwyliau gorfodi i'r wefan urinal.net (wefan yn dangos lluniau o droethfeydd) dileu enw'r lle gwyliau o'i wefan[4]:
"Pa mor hir y bydd nes bod cyfreithwyr yn sylweddoli bod ceisio cuddio rhywbeth dad ydynt yn hoffi ar-lein yn mynd i achosi i rywbeth na fydd lot o bobl yn gweld (fel ffotograff o droethfa yn rhyw le gwyliau dibwys) cael ei weld gan lot mwy o bobl? Gadewch i ni ei alw yr Effaith Streisand"[4]
Enwyd yr effaith ar ôl y canwr Americanaidd Barbra Streisand. Yn 2003 gwnaeth cais i guddio ffotograffau o'i chartref yn Malibu, Califfornia achosi mwy o gyhoeddusrwydd i'r ffotograff. Siwiodd Streisand y ffotograffydd Kenneth Adelman a Pictopia.com am fradychu ei phreifatrwydd.[5] Siwiodd am $50 miliwn er mwyn dileu ffotograff o'r awyr o'i phlas o gasgliad cyhoeddus o 12,000 ffotograff o forlan Califfornia.[6][7][8] Pwrpas y casgliad oedd dogfennu erydiad morlan Califfornia a'i ddefnyddio i ddylanwadu'r llywodraeth.[9][10] Cyn i Streisand siwio cafodd "Image 3850" ei lawrlwytho o'r wefan ond chwech o weithiau; roedd dau o'r lawrlwythiadau hynny o gyfreithwyr Streisand ei hun.[11] Fel canlyniad o'r achos cyfreithiol daeth llawer mwy o bobl yn ymwybodol o'r llun; gwnaeth mwy na 420,000 pobl lawrlwytho'r ffotograff dros y mis nesaf.[12] Cafodd yr achos cyfreithiol ei diddymu ac roedd rhaid i Streisand talu costau cyfreithlon Adelman, tua $155,567.[13][14][15]
Caiff nifer o sefyllfaoedd eraill cael ei ddisgrifio gan yr Effaith Streisand: er enghraifft pan fydd llywodraethau yn ceisio sensro delweddau ar-lein o'u cyfleusterau cyfrinachol o'r we, ac achosion difenwad enwogion. O ganlyniad mae'r Effaith Streisand wedi cael ei nodi yn gysylltiedig â'r 'hawl i gael eich anghofio', gall defnyddio deddfau sy'n ceisio dileu gwybodaeth o beiriannau chwilio ei hun fod yn wybodaeth a fydd yn tynnu sylw at yr hyn sydd angen ei dileu.[16][17]
↑Tentative ruling, page 6, stating, "Image 3850 was download six times, twice to the Internet address of counsel for plaintiff". In addition, two prints of the picture were ordered—one by Streisand's counsel and one by Streisand's neighbor. "Archived copy"(PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol(PDF) ar Awst 24, 2015. Cyrchwyd Medi 24, 2014.CS1 maint: archived copy as title (link)