Draeniad mwyngloddiau asid ym Mhortiwgal | |
Enghraifft o'r canlynol | effaith amgylcheddol |
---|---|
Math | effaith amgylcheddol, anthropogenic hazard |
Gall effaith mwyngloddio ar yr amgylchedd ddigwydd ar raddfa leol, ranbarthol a byd-eang trwy arferion mwyngloddio uniongyrchol ac anuniongyrchol. Gall yr effeithiau arwain at erydiad, sudd-dyllau, colli bioamrywiaeth, neu halogi pridd, dŵr daear, a dŵr wyneb gan y cemegau a ollyngir o brosesau mwyngloddio. Mae'r prosesau hyn hefyd yn effeithio ar yr atmosffer o allyriadau carbon sy'n effeithio ar ansawdd iechyd dynol a bioamrywiaeth.[1]
Efallai y bydd rhai dulliau mwyngloddio (cloddio lithiwm, mwyngloddio ffosffad, mwyngloddio glo, mwyngloddio copaon mynyddoedd, a mwyngloddio tywod) yn cael effeithiau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus mor sylweddol fel ei bod yn ofynnol i gwmnïau mwyngloddio mewn rhai gwledydd ddilyn codau amgylcheddol er mwyn sicrhau bod yr ardal a fwyngloddiwyd yn dychwelyd i'w chyflwr gwreiddiol.
Gall erydiad llethrau agored, tomenni gwastraff y mwyngloddiau, argaeau dal isgynnyrch (tailings dams) a siltio o ganlyniad i ddraenio, nentydd ac afonydd effeithio'n sylweddol yr ardaloedd cyfagos; enghraifft o hyn yw Mwynglawdd Ok Tedi yn Papua Gini Newydd.[2] Gall erydiad pridd leihau faint o ddŵr sydd ar gael ar gyfer twf planhigion, gan arwain at ostyngiad yn y boblogaeth yn yr ecosystem planhigion.[3] Mae erydiad pridd yn cael ei achosi'n bennaf gan ormod o law a diffyg rheolaeth pridd.[4] Mewn diffeithwch gall mwyngloddio achosi dinistr ar ecosystemau a chynefinoedd, ac mewn ardaloedd ffermio gall darfu ar neu ddinistrio tir pori cynhyrchiol a thir cnydau.[5]
Achosir sudd-dyllau ar neu gerllaw safle mwyngloddio fel arfer gan do'r mwynglawdd yn chwalu oherwydd propio gwael neu gyfnod o amser heb i'r ogof neu't tyllau a suddwyd i'r Ddaear gael ei archwilio a'i gryfhau.[6] Gall y gorlwyth ar safle'r mwynglawdd ddatblygu ceudodau (mannau gwag) yn yr isbridd neu'r graig, a all fewnlenwi â thywod a phridd o'r strata uwchben. Mae'r ceudodau hyn yn aml yn cwympo, gan ffurfio sudd-dyllau ar yr wyneb. Gall hyn fod yn ddifrifol beryglus i fywyd ac eiddo.[7] Gellir atal y broblem trwy ddylunio seilwaith solad fel cynheiliaid (props) mwyngloddio cryfach ac adeiladu waliau gwell. Gellir llenwi'r ogofau, neu growtio'r waliau i sefydlogi'r gweithfeydd tanddaearol segur.
Gall mwyngloddio lygru'r dŵr wyneb a'r dŵr daear o amgylch. Heb gynllunio'n briodol ymlaen llaw, gall crynodiadau annaturiol o uchel o gemegau, fel arsenig, asid sylffwrig, ac arian bywi ledaenu dros ardal sylweddol o ddŵr wyneb neu ddŵr dan yr wyneb.[8] Mae llawer iawn o ddŵr a ddefnyddir ar gyfer draenio ac oeri mwyngloddiau, echdynnu a phrosesau eraill yn cynyddu'r potensial i'r cemegau hyn halogi'r dŵr. Gan fod mwyngloddio yn cynhyrchu llawer iawn o ddŵr gwastraff, mae'r dulliau gwaredu yn gyfyngedig oherwydd yr halogion yn y dŵr gwastraff. Gall dŵr ffo sy'n cynnwys y cemegau hyn arwain at ddinistrio'r llystyfiant o amgylch.
Llifo neu bwmpio'r dŵr ffo i'r dŵr wyneb neu mewn coedwigoedd yw'r opsiwn gwaethaf. Felly, mae gwaredu'r isgynnyrch mewn argaeau tanddaearol yn cael ei ystyried yn opsiwn gwell (os caiff y gwastraff ei bwmpio i ddyfnder mawr).[9] Mae storio tir ac ail-lenwi'r pwll ar ôl iddo gael ei ddisbyddu hyd yn oed yn well, os nad oes angen clirio coedwigoedd ar gyfer storio'r malurion. Mae halogiad y gwahanfeydd dŵr o ganlyniad i ollyngiad cemegau hefyd yn cael effaith ar iechyd y boblogaeth leol.[10]
Mewn mwyngloddiau sydd wedi'u rheoleiddio'n dda, mae hydrolegwyr a daearegwyr yn cymryd mesuriadau gofalus o ddŵr er mwyn atal unrhyw fath o halogiad dŵr a allai gael ei achosi gan weithwyr y fwynglawdd. Mae lleihau dirywiad amgylcheddol yn cael ei orfodi mewn arferion mwyngloddio Americanaidd gan gyfraith ffederal a gwladwriaethol, trwy gyfyngu ar reolwyr y pyllau i fodloni safonau ar gyfer amddiffyn purdeb dŵr wyneb a daear rhag halogiad.[11] Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio prosesau echdynnu diwenwyn fel bio trwytholchi.[12]
Mae llygryddion aer yn cael effaith negyddol ar dyfiant planhigion, yn bennaf trwy ymyrryd â chroniad adnoddau. Pan fo dail mewn cysylltiad agos â'r atmosffer, mae llawer o lygryddion aer, megis O3 a NOx, yn effeithio ar swyddogaeth metabolig y dail ac yn ymyrryd â gosodiad carbon net gan y canopi planhigion. Mae llygryddion aer sy'n cael eu dyddodi gyntaf ar y pridd, fel metelau trwm, yn effeithio'n gyntaf ar weithrediad gwreiddiau ac yn ymyrryd â gallu'r planhigyn i gymryd mwynau da o'r pridd. Bydd y gostyngiadau hyn yn effeithio ar dwf planhigion trwy newidiadau yn y modd y mae'r planhigyn yn dyranu adnoddau i'r strwythurau amrywiol. Pan fydd straen llygredd aer yn cyd-ddigwydd â straen arall, ee straen dŵr, bydd y canlyniad ar dyfiant yn dibynnu ar ryngweithiad cymhleth prosesau o fewn y planhigyn. Mewn amaeth-ecosystemau, gall y newidiadau hyn fod yn amlwg mewn llai o gynnyrch economaidd.[13]
Mae mwyngloddio o dan yr wyneb yn aml yn mynd yn ei flaen o dan y lefel trwythiad (water table), felly rhaid pwmpio dŵr allan o'r pwll yn gyson er mwyn atal llifogydd. Pan fydd pwll yn cael ei adael, ar ddiwedd ei oes, mae'r pwmpio'n dod i ben, ac mae dŵr yn gorlifo'r pwll. Y dŵr hwn yw'r cam cychwynnol yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd draenio creigiau asid.
Mewn rhai amgylcheddau mae draeniad craig asidig yn digwydd yn naturiol, fel rhan o'r broses hindreulio creigiau, ond caiff ei waethygu gan fwyngloddio ar raddfa fawr, yn enwedig o fewn creigiau sy'n cynnwys lefel uchel o fwynau sylffid. Gall ardaloedd lle mae'r ddaear wedi'i haflonyddu (ee safleoedd adeiladu, israniadau, a choridorau trafnidiaeth) greu draeniad craig asidig. Mewn llawer o ardaloedd, gall yr hylif sy'n draenio o stociau glo, cyfleusterau trin glo, golchfeydd glo, a thomenni gwastraff glo fod yn asidig iawn, ac mewn achosion o'r fath caiff ei drin fel draeniad mwyngloddiau asid (AMD).
Y pum prif dechnoleg a ddefnyddir i fonitro a rheoli llif dŵr mewn safleoedd mwyngloddio yw
Yn achos draeniad mwyngloddiau asid (AMD), mae dŵr halogedig fel arfer yn cael ei bwmpio i gyfleuster trin sy'n niwtraleiddio'r halogion.[14] Canfu adolygiad o ddatganiadau effaith amgylcheddol yn 2006 fod "rhagfynegiadau ansawdd dŵr a wnaed i raddau helaeth yn tanamcangyfrif yr effeithiau gwirioneddol ar ddŵr daear a dŵr wyneb".[15]
Mae metelau trwm yn elfennau sy'n digwydd yn naturiol a sydd â phwysau atomig uchel a dwysedd o leiaf 5 gwaith yn fwy na dŵr. Mae eu cymwysiadau diwydiannol, domestig, amaethyddol, meddygol a thechnolegol lluosog wedi arwain lefel uchel ohonynt yn yr amgylchedd; mae hyn yn achosi pryder mawr ynghylch eu heffaith posibl ar iechyd dynol a'r amgylchedd.[16]