Math | effaith rhyfel, effaith amgylcheddol |
---|
Mae astudiaeth o effaith rhyfel ar yr amgylchedd yn canolbwyntio ar y dulliau modern o ryfela a'i effeithiau cynyddol ar yr amgylchedd. Ceir llawer o gofnodion o losgi bwriadol (daearlosgi) drwy hanes. Fodd bynnag, mae dulliau rhyfela modern yn achosi llawer mwy o ddifrod i'r amgylchedd, gan gynnwys gwenwyn ac ymbelydredd o bob math. Achosodd arfau cemegol ac arfau niwclear straen cynyddol ar ecosystemau a'r amgylchedd ill dau. Ymhlith yr enghreifftiau penodol mae'r Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, Rhyfel Fietnam, Rhyfel Cartref Rwanda, Rhyfel Kosovo a Rhyfel y Gwlff.
Roedd gan Ryfel Fietnam oblygiadau amgylcheddol sylweddol oherwydd cyfryngau cemegol a ddefnyddiwyd i ddinistrio llystyfiant. Canfu gelynion fantais mewn aros yn anweledig trwy ymdoddi i orchudd o lystyfiant trwchus gyda byddinoedd y gelyn yn targedu ecosystemau naturiol, lle bod nunlle i guddio.[1] Defnyddiodd milwrol yr Unol Daleithiau “fwy nag 20 miliwn galwyn o chwynladdwyr... i ddifwyno coedwigoedd, clirio twf ar hyd ffiniau safleoedd milwrol a dileu cnydau'r gelyn.”[2] Rhoddodd y cemegolion hyn fantais i'r Unol Daleithiau. Fodd bynnag, nid oedd y llystyfiant yn gallu adfywio a gadawodd ar ei ôl ardaloedd o laid a oedd yn dal i fodoli flynyddoedd ar ôl cael eu chwistrellu.[1]
Effeithiwyd hefyd ar y bywyd gwyllt: “Nododd astudiaeth o ganol y 1980au gan ecolegwyr Fietnameg mai dim ond 24 rhywogaeth o adar a 5 rhywogaeth o famaliaid oedd yn bresennol mewn coedwigoedd wedi’u chwistrellu ac ardaloedd wedi’u 'hadfer', o'i gymharu â 145–170 o rywogaethau adar a 30– 55 math o famaliaid yn y goedwig gyfan."[1][2]
Ledled Affrica, mae rhyfel wedi bod yn ffactor mawr yn y dirywiad mewn poblogaethau bywyd gwyllt y tu mewn i barciau cenedlaethol ac ardaloedd gwarchodedig eraill.[3] Fodd bynnag, mae nifer cynyddol o fentrau adfer yr ecoleg, gan gynnwys ym Mharc Cenedlaethol Akagera Rwanda a Pharc Cenedlaethol Gorongosa Mosambic, wedi dangos y gall poblogaethau bywyd gwyllt ac ecosystemau cyfan gael eu hailsefydlu'n llwyddiannus hyd yn oed ar ôl gwrthdaro dinistriol.[4] Mae arbenigwyr wedi pwysleisio bod datrys problemau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ymdrechion o'r fath.[5][3][4]
Arweiniodd hil-laddiad Rwanda at ladd tua 800,000 o Tutsis a Hutus cymedrol. Creodd y rhyfel ymfudiad enfawr o bron i 2 filiwn o Hutus gan ffoi o Rwanda dros gyfnod o ychydig wythnosau yn unig i wersylloedd ffoaduriaid yn Tansanïa a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo heddiw.[1] Mae'r dadleoliad mawr hwn o bobl mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn rhoi pwysau ar yr ecosystem amgylchynol. Cliriwyd coedwigoedd er mwyn darparu pren ar gyfer adeiladu llochesi a chreu tanau i goginio:[1] “dioddefodd y bobl hyn o amodau caled ac roeddent yn fygythiad i'r adnoddau naturiol.”[5] Roedd canlyniadau'r gwrthdaro hefyd yn cynnwys diraddio Parciau Cenedlaethol a Chronfeydd Wrth Gefn. Problem fawr arall oedd bod y rhaeadr enfawr o boblogaeth yn Rwanda wedi symud personél a chyfalaf i rannau eraill o'r wlad, gan ei gwneud hi'n anodd amddiffyn bywyd gwyllt.[5]
Sbardunodd yr Ail Ryfel Byd (WWII) gynnydd enfawr mewn cynhyrchiant, cynhyrchu a chludo nwyddau militaraidd, a chafwyd canlyniadau amgylcheddol newydd, sydd i'w gweld hyd heddiw (2023). Dinistriwyd bodau dynol, anifeiliaid a deunyddiau. Mae effeithiau ôl-ryfel yr Ail Ryfel Byd, yn ecolegol a chymdeithasol, i'w gweld o hyd ddegawdau ar ôl i'r gwrthdaro ddod i ben.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd technoleg newydd i greu awyrennau, a ddefnyddiwyd i gynnal cyrchoedd awyr. Defnyddiwyd awyrennau i gludo adnoddau a gollwng bomiau ar y gelyn, dinsadyddion niwtral a chyfeillgar fel ei gilydd. Roedd y gweithgareddau hyn yn niweidio cynefinoedd.[6]
Yn ddiarwybod, daethpwyd â chwyn a rhywogaethau anfrodorol i ecosystemau ynysoedd cefnforol trwy stribedi glanio awyrennau a ddefnyddiwyd fel gorsafoedd ail-lenwi a llwyfannu yn brydro ar y Môr Tawel.[7] Cyn y rhyfel, roedd nifer fawr o rywogaethau endemig yn byw yn yr ynysoedd anghysbell o amgylch Ewrop. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd rhyfela o'r awyr ddylanwad aruthrol ar ddeinameg y boblogaethl.[8]
Yn Awst 1945, gollyngodd Unol Daleithiau America fom atomig dros ddinas Hiroshima yn Japan au farw tua 70,000 o bobl yn y naw eiliad cyntaf, tua'r un nifer ag y bu farw yng nghyrch awyr <i>Operation Meetinghouse</i> dros Tokyo. Dridiau ar ôl bomio Hiroshima, gollyngodd yr Unol Daleithiau ail fom atomig ar ddinas ddiwydiannol Nagasaki, gan ladd 35,000 o bobl ar unwaith.[9] Rhyddhaodd yr arfau niwclear lefelau trychinebus o egni a gronynnau ymbelydrol. Unwaith y taniwyd y bomiau, cyrhaeddodd y tymheredd tua 3,980 °C/7,200 °F.[9] Gyda thymheredd mor uchel, dinistriwyd yr holl fflora a ffawna ynghyd â'r seilwaith, a bywydau dynol yn yr ardaloedd hyn.[8] Arweiniodd y gronynnau ymbelydrol a ryddhawyd i halogi tir a dŵr.[10]
Dechreuwyd defnyddio cemegau hynod beryglus am y tro cyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[11][8] Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (WW I), datblygodd cemegwyr Lloegr a'r Almaen nwy clorin a nwy mwstard. Arweiniodd datblygiad y nwyon hyn at lawer o anafiadau cas, a gwenwynwyd tiroedd ar feysydd y gad ac yn agos atynt.[11]
Roedd Gwaith y Dyffryn, Rhydymwyn yn ffatri gyfrinachol a godwyd ym 1939-40 i storio'r arfau cemegol. Dewiswyd Rhydymwyn gan ICI a byddin lloegr oherwydd presenoldeb rheilffordd a phriffordd mewn ardal weddol diarffordd, gyda digon o ddŵr croyw o'r Afon Alun gerllaw[12]. Roedd y lleoliad hefyd yn ddim ond 30 milltir i ffwrdd o brif safle'r cwmni, Gwaith Rundle, ar Ynys Wigg, yn Runcorn, lle roedd yn cynhyrchu'r nwy mwstad.[13] Cafwyd gwared a stor anferthol o'r nwy yn 1958.[14]
Yn ddiweddarach yn yr Ail Ryfel Byd, datblygodd cemegwyr fomiau cemegol hyd yn oed yn fwy niweidiol, a gafodd eu pecynnu mewn casgenni a'u gwagio'n uniongyrchol yn y cefnforoedd.[8] Trwy waredu cemegolion yn y cefnfor, gall yr halogion gael eu lledaenu ar draws gwahanol rannau o'r ecosystemau yn forol ac ar y tir mawr.[11]
Difrodwyd ecosystemau morol yn ystod yr Ail Ryfel Byd nid yn unig gan halogion cemegol, ond hefyd oherwydd llongddrylliad, a ollyngodd olew i'r môr. Amcangyfrifir bod yr halogiad olew yng Nghefnfor yr Iwerydd oherwydd llongddrylliadau’r Ail Ryfel Byd dros 15 miliwn o dunelli.[8] Cydnabyddir bod gollyngiadau olew o longau'n anodd eu glanhau a bod y broses yn cymryd blynyddoedd lawer. Hyd heddiw, gellir dod o hyd i olion olew yng Nghefnfor yr Iwerydd o longddrylliadau'r Ail Ryfel Byd.
Yn ystod Rhyfel y Gwlff 1991, cynhaewyd tanau olew drwy Coweit o ganlyniad i bolisi 'llosgddaear' (scorched earth) wrth i luoedd Irac gilio o Coweit. Achoswyd gorlif olew Rhyfel y Gwlff, sy'n cael ei ystyried fel y gollyngiad olew gwaethaf mewn hanes, pan agorodd lluoedd Irac falfiau yn nherfynell olew Sea Island a gollwng olew o sawl tancer i Gwlff Persia. Roedd olew hefyd yn cael ei ollwng yng nghanol yr anialwch.
Mae profion arfau niwclear wedi'u cynnal mewn gwahanol leoedd gan gynnwys Bikini Atoll, Ynysoedd Marshall, Mecsico Newydd yn yr Unol Daleithiau, Mururoa Atoll, Maralinga yn Awstralia, a Novaya Zemlya yn yr hen Undeb Sofietaidd.
Downwinders yw unigolion a chymunedau a fu mewn cysylltiad gyda halogiad ymbelydrol a/neu ganlyniad niwclear o brofion arfau niwclear atmosfferig a/neu danddaearol, a damweiniau niwclear.
Astudiodd llywodraeth yr Unol Daleithiau effeithiau Strontium-90 ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sef isotop ymbelydrol. Darganfu’r Comisiwn Ynni Atomig y gall “Sr-90, sy’n gemegol debyg i galsiwm, gronni mewn esgyrn ac o bosibl arwain at ganser”. [15] Canfu Sr-90 ei ffordd i mewn i fodau dynol trwy'r gadwyn fwyd ecolegol o'r pridd, drwy blanhigion, a'i grynhoi ymhellach mewn anifeiliaid llysysol, a'i fwyta yn y pen draw gan bobl.[16]
Mae'r defnydd o wraniwm disbyddedig mewn arfau rhyfel yn ddadleuol oherwydd nifer o gwestiynau am effeithiau iechyd hirdymor.[17] Gall effeithio'r aren, yr ymennydd, yr afu, y galon, a nifer o systemau eraill, drwy fod yn agos i wraniwm, oherwydd yn ogystal â bod yn ymbelydrol, mae wraniwm hefyd yn fetel gwenwynig.[18][19] Mewn cyfnod o dair wythnos o wrthdaro yn Irac yn ystod 2003, amcangyfrifwyd bod dros 1000 tunnell o arfau rhyfel wraniwm disbyddedig yn cael eu defnyddio'n bennaf mewn dinasoedd.[20] Mae Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau yn honni na welwyd unrhyw ganser dynol o unrhyw fath o ganlyniad i dod i gysylltiad ag wraniwm naturiol neu wedi'i ddihysbyddu.[21]
Yn ogystal, priodolodd Gwasanaeth Tribiwnlys Apeliadau Pensiynau'r Lloegr yn gynnar yn 2004 hawliadau am namau geni gan gyn-filwr a fu'n ymladd yn Rhyfel y Gwlff, yn Chwefror 1991 ac amwenwyno wraniwm disbyddedig.[22][23] Hefyd, daeth adolygiad epidemioleg yn 2005 i'r casgliad: "Ar y cyfan mae'r dystiolaeth epidemiolegol ddynol yn gyson â risg uwch o namau geni mewn plant cyn-filwyr sy'n dod i gysylltiad â wraniwm disbyddedig." [24] Yn 2022 Lloegr oedd yr unig wlad i ddanfon magnelau a oedd yn cynnwys wraniwm disbyddedig i Wcráin yn ystod Rhyfel Rwsia ac Wcráin.
Yn draddodiadol, mae diogelwch dynol wedi'i gysylltu'n gyfan gwbl â gweithgareddau milwrol ac amddiffyn.[25] Ceir mwy a mwy o alwadau gan ysgolheigion a sefydliadau fel y Biwro Heddwch Rhyngwladol am ymagwedd fwy cyfannol at ddiogelwch, yn enwedig gan gynnwys pwyslais ar y rhyng-gysylltiadau a'r rhyngddibyniaethau sy'n bodoli rhwng pobl a'r amgylchedd.[26][25] Profwyd fod gweithgaredd milwrol yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.[26][25][27][28] Nid yn unig y gall rhyfel fod yn ddinistriol i'r amgylchedd cymdeithasol, ond mae gweithgareddau milwrol yn cynhyrchu llawer iawn o nwyon tŷ gwydr (sy'n cyfrannu at newid hinsawdd anthropogenig), llygredd, ac yn achosi disbyddiad adnoddau, ymhlith effeithiau amgylcheddol eraill.[26][25][28]