Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr
Enwad CristnogolDiwygiedig ac efengylaidd ceidwadol yw'r Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr (Saesneg: Evangelical Presbyterian Church in England and Wales, EPCEW), â'i egwlysi yng Nghymru, Lloegr a Sweden.
Ym 1986, cynhaliwyd cynhadledd Bresbyteraidd mewn un o gapeli Eglwys Rydd yr Alban yn Llundain, lle y cynigiwyd gweledigaeth am enwad Presbyteraidd newydd yn Lloegr a fyddai'n ffyddlon i'r Ysgrythurau ac yn glynu wrth Gyffes Ffydd Westminster. O ganlyniad, sefydlwyd y Gymdeithas Bresbyteraidd yn Lloegr ym 1987 o blith sawl eglwys a grŵp Cristnogol bach, wedi'i ddilyn gan ymdrechion i sefydlu eglwysi newydd. Ym 1991, ffurfiwyd henaduriaeth dros dro ag eglwysi yn Blackburn, Caergrawnt, Chelmsford, Durham a Hull er mwyn anelu at sefydlu'r enwad newydd. Gwireddwyd hyn ym 1996, gan ddwyn yr enw, yr Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr.[1]
Mae'r enwad yn cyhoeddi cylchgrawn The Presbyterian Network yn y gwanwyn a'r hydref, sydd yn cynnwys erthyglau diwinyddol a bugeiliol a newyddion am ei heglwysi.[24]
↑"EPCEW Congregations". Evangelical Presbyterian Church in England and Wales Website. Evangelical Presbyterian Church in England and Wales. Cyrchwyd 27 April 2015.