![]() | |
Math | capel, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ![]() |
Rhan o'r canlynol | Eglwys a ffynnon Sant Gofan ![]() |
Lleoliad | Y Stagbwll a Chastellmartin ![]() |
Sir | Y Stagbwll a Chastellmartin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 23.3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5987°N 4.93673°W ![]() |
Hyd | 5.3 metr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | Gofan ![]() |
Manylion | |
Deunydd | calchfaen, llechfaen ![]() |
Efallai mai'r peth mwyaf trawiadol am Eglwys Sant Gofan yw ei lleoliad: saif yng nghesail creigiau calchfaen geirwon ar fin y dŵr ar arfordir Sir Benfro, tua dwy filltir i'r de o Bosherston. Cell feudwy ydyw ac mae'n mesur 20 wrth 12 tr (6.1 m × 3.7 m); un ystafell yn unig ydy'r gell. Fel y creigiau o'i chwmpas fe'i codwyd o galchfaen tua'r 6g, er bod yr hyn a welir heddiw dipyn yn ddiweddarach - y 13g.[1]
Mae'r enw'n awgrymu mai ar gyfer y mynach Gofan y'i codwyd a cheir ogof gerllaw, lle cysgododd tra'n codi'r lloches. Yn ôl traddodiad llafar lleol cafodd Gofan ei gladdu o dan yr allor ar ochr ddwyreiniol yr adeilad.[2] Ar yr ochr ogleddol mae'r fynedfa, a cheir meinciau isel o garreg ar hyd y waliau gogleddol a deheuol a cheir agen wag yn y graig lle gynt y safodd y gloch.[3] Mae'r to o lechan ac yn gymharol fodern.[3]
Mewn chwedl arall dywedir i Gofan ddianc am ei fywyd oddi wrth fôr-ladron ysbeilgar ac i'r graig agor o'i flaen, er mwyn iddo guddio'n ddiogel. Gwnaeth hynny, ac fel diolch am y wyrth gysegrodd ei fywyd i'w Dduw.
|publisher=
(help)