Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Gwefan | http://www.apchurches.org/ |
Enwad Cristnogol yn yr Alban a Chanada yw'r Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig (Saesneg: Associated Presbyterian Churches) a sefydlwyd o blith Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban ym 1989.
Digwyddodd y rhwyg oherwydd gwahaniaeth barn parhaol ynglŷn â rhyddid cydwydbod (fel y'i diffinnir yng Nghyffes Ffydd Westminster), a aeth i'r pen dros yr Arglwydd Mackay o Clashfern yn mynychu offeren requiem fel rhan o angladd cydweithiwr, y cyn-Arglwydd Ustus Clerc yr Arglwydd Wheatley. Gan mai Arglwydd Adfocad yr Alban oedd Mackay, roedd disgwyl iddo fynd i angladd aelod ymadawdig o'r farnwriaeth ac yr oedd yn gyfaill i Wheatley hefyd. Er hynny, henadur yn Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban oedd Mackay, ac ni allai ei harweinwyr oddef ei fynychiad gan ei bod yn ystyried Pabyddiaeth yn ffug a'i hofferen yn ofergoelus. O ganlyniad i hyn, gwaharddwyd Mackay o'i swydd fel henadur. Roedd rhaid yn yr Eglwys yn anghytuno â'r gosb hon ac fe ddaeth rhwyg, nid yn unig oherwydd mater yr Arglwydd Mackay ond hefyd mater parhaol rhyddid cydwybod. Mae'r rhaid a sefydlodd yr Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig yn credu nad oedd yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn rhoi lle digonol i ryddid cydwybod a bod disgyblu'r Arglwydd Mackay yn y ffordd honno'n anaddas.[1]
Mae gwefan yr Eglwysi Cysylltiedig yn datgan, "Rydym yn credu ei bod yn gywir i adael i Gristnogion benderfynu drostynt eu hun ar faterion nad ydynt yn sylfaenol i'r ffydd."
Mae'r eglwys yn cydnabod:[2]
Mae'i chynulleidfaoedd mwyaf yn Inbhir Nis (Inverness) a Steònabhag (Stornoway). Mae ganddi naw cyunlleidfa yn yr Alban ac un yn Vancouver yng Nghanada. Yn ogystal â'r rhain, mae gan yr enwad naw eglwys arall, ond nid yw'r cynulleidfaoedd hyn yn cynnal oedfaon ond yn addoli gydag eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig eraill neu gyda chynulleidfaoedd lleol Eglwys Rydd yr Alban.[3]
Aelod o'r Gymdeithadas Ddigwygiedig Fyd-eang yw'r Eglwys Bresbyteraidd Gysylltiedig.[1]
Eglwys | Gweinidog | Nodiadau |
---|---|---|
Baile Dhubhthaich (Tain) | Y Parch. John van Eyk | Unwyd â Manachainn Rois. |
Caeredin | Y Parch. John Ross | |
Ceann Loch Biorbhaidh (Kinlochbervie) | Y Parch. Gordon Murray | |
An Druim Beag (Drumbeg) | cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk | Unwyd ag An Stòr a Loch an Inbhir ac mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd. |
Dùn Dèagh (Dundee) | Y Parch. Donald C Macaskill | |
An t-Eilean Sgitheanach a Na Hearadh | cymedrolwr dros dro: Y Parch. Gordon Murray | |
An Gearasdan (Fort William) | cymedrolwr dros dro: Y Parch. Archibald N. McPhail | Mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd. |
Inbhir Nis (Inverness) | Y Parch. Y Parch. Ddr John C. A. Ferguson | |
Inbhir Ùige (Wick) | Y Parch. J. R. Ross Macaskill | Unwyd â Srathaidh. |
Loch an Inbhir (Lochinver) | cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk | Unwyd ag An Druim Beag ac An Stòr ac mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd. |
An Luirg (Lairg) | Y Parch. Gordon Murray | Unwyd â Raoghard. |
Manachainn Rois (Fearn) | Y Parch. John van Eyk | Unwyd â Baile Dhubhthaich. |
An t-Òban (Oban) | Y Parch. Archibald McPhail | |
Poll Iù (Poolewe) | cymedrolwr dros dro: Y Parch. Ddr A. S. Wayne Pearce | Mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd. |
Raoghard (Rogart) | Y Parch. Gordon Murray | Unwyd ag An Luirg. |
Srathaidh (Strathey) | dim | Unwyd ag Inbhir Ùige. |
Steòrnabhagh (Stornoway) | cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk | |
An Stòr (Stoer) | cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk | Unwyd ag An Druim Beag a Loch an Inbhir ac mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd. |
Vancouver, Canada | Y Parch. Fletcher Matandika |