Sglein melys a wneir o siwgr a hylif megis dŵr neu laeth yw eisin sydd yn aml yn cynnwys cynhwysion megis menyn, gwynwy, caws hufen, neu gyflasynnau. Fe'i ddefnyddir i addurno bwydydd pob, megis teisenni neu fisgedi.
Gwneir siwgr eisin o'r gansen neu'r fetysen. Mae'n siwgr mân iawn sy'n hydoddi'n syth mewn dŵr.[1] Gan amlaf mae'n wyn, ond gellir ei liwio â lliwiad bwyd.
Ceir cyfeiriad ato yn y gân Pedair Oed a genir gan Rhys Meirion. Hen air arall amdano ydy siwgwr melys.