Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Fe'i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.
Cystadlaethau ym maes canu, llefaru, dawnsio a chanu offerynnau yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon eisteddfodau yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Gelf a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Hyd 2007, fe gyflwynwyd Y Fedal Lenyddiaeth yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen yn 1929.
Cynhelir yr Eisteddfod yn y Gogledd a'r De bob yn ail, ond ym Mae Caerdydd bob pedair mlynedd ers agor Canolfan y Mileniwm.
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1930 | Caernarfon |
1931 | Abertawe |
1932 | Machynlleth |
1933 | Caerffili |
1934 | Hen Golwyn |
1935 | Caerfyrddin |
1936 | Blaenau Ffestiniog |
1937 | Gwauncaegurwen |
1938 | Aberystwyth |
1939 | Llanelli |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1940 | Y Rhyl |
1941-45 | Bwlch yn ystod Yr Ail Ryfel Byd |
1946 | Corwen |
1947 | Treorci |
1948 | Llangefni |
1949 | Pontarddulais |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1950 | Wrecsam |
1951 | Abergwaun |
1952 | Machynlleth |
1953 | Maesteg |
1954 | Y Bala |
1955 | Abertridwr |
1956 | Caernarfon |
1957 | Rhydaman |
1958 | Yr Wyddgrug |
1959 | Llanbedr Pont Steffan |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1960 | Dolgellau |
1961 | Aberdâr |
1962 | Rhuthun |
1963 | Brynaman |
1964 | Porthmadog |
1965 | Caerdydd |
1966 | Caergybi |
1967 | Caerfyrddin |
1968 | Llanrwst |
1969 | Aberystwyth |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1970 | Llanidloes |
1971 | Abertawe |
1972 | Y Bala |
1973 | Pontypridd |
1974 | Y Rhyl |
1975 | Llanelli |
1976 | Porthaethwy |
1977 | Y Barri |
1978 | Llanelwedd |
1979 | Maesteg |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1980 | Abergele |
1981 | Castellnewydd Emlyn |
1982 | Pwllheli |
1983 | Aberafan |
1984 | Yr Wyddgrug |
1985 | Caerdydd |
1986 | Dyffryn Ogwen |
1987 | Merthyr Tudful |
1988 | Maldwyn |
1989 | Cwm Gwendraeth |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
1990 | Dyffryn Nantlle |
1991 | Taf Elai (Tonyrefail) |
1992 | Rhuthun |
1993 | Gorseinon |
1994 | Meirionnydd (Dolgellau) |
1995 | Bro'r Preseli (Boncath)[2] |
1996 | Bro Maelor (Wrecsam) |
1997 | Islwyn |
1998 | Llŷn ac Eifionydd (Penyberth ger Pwllheli) |
1999 | Llanbedr Pont Steffan |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
2000 | Bro Conwy |
2001 | Gohiriwyd o achos clefyd traed a'r genau. Cynhaliwyd Gŵyl yr Urdd, 2001 |
2002 | Caerdydd a'r Fro |
2003 | Tawe, Nedd ac Afan ym Mharc Margam |
2004 | Ynys Môn - Llangefni |
2005 | Canolfan y Mileniwm - Caerdydd |
2006 | Sir Ddinbych - Rhuthun |
2007 | Sir Gâr[3] |
2008 | Sir Conwy, yn Llandudno |
2009 | Bae Caerdydd |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
2010 | Llannerch Aeron[4] |
2011 | Abertawe[5] |
2012 | Eryri (Glynllifon ger Caernarfon)[6] |
2013 | Sir Benfro (Boncath)[2] |
2014 | Meirionnydd (Y Bala) |
2015 | Caerffili a'r Cylch |
2016 | Sir y Fflint |
2017 | Pen-y-Bont, Taf, ac Elai |
2018 | Brycheiniog a Maesyfed (Llanelwedd) |
2019 | Caerdydd a'r Fro |
Blwyddyn | Lleoliad |
---|---|
2020 | Gohiriwyd oherwydd pandemig COVID-19.
Cynhaliwyd fersiwn ar-lein (Eisteddfod T) yn 2020 a 2021.[7][8] |
2021 | |
2022 | Sir Ddinbych |
2023 | Sir Gaerfyrddin (Llanymddyfri) |
2024 | Maldwyn (Fferm Mathrafal, ger Meifod) |
2025 | Parc Margam a’r Fro[9] |
2026 | Ynys Môn[10] |
|access-date=, |date=
(help)