![]() | |
Math | safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Veracruz ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 240 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 20.4481°N 97.3782°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, eiddo diwylliannol, cadwriaethol ![]() |
Manylion | |
Hen ddinas yn perthyn i wareiddiad Totonaca ym Mecsico yw El Tajín. Ystyr "Tajín" yw "Lle y taranau" mewn Totonaceg. Saif ger dinasoedd Papantla a Poza Rica, yn nhalaith Veracruz.
Roedd y ddinas yn ganolfan i wladwriaeth Totonaca. Credir i'r ddinas gael ei hadeiladu gyntaf y 1g OC. Yn y cyfnod clasurol cynnar, mae'n dangos dylanwad Teotihuacan, ac yn ddiweddarach yn dangos dylanwad Toltec. Nid oedd neb yn byw yno erbyn i'r Sbaenwyr gyrraedd yn y 16g. Dynodwyd El Tajín yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1992.