Mae Elastigedd pris y cyflenwad (Price Elasticity of Supply neu PES yn Saesneg, neu Es) yn fesur sy'n cael ei ddefnyddio mewn economeg i ddangos pa mor ymatebol, neu elastig, yw maint cyflenwad nwydd neu wasanaeth i newid yn ei bris.
Mae'r elastigedd yn cael ei fesur ar ffurf niferol, ac yn cael ei ddiffinio fel canran y newid yn y nifer yr unedau sy'n cael eu cyflenwi wedi'i rannu gyda chanran y newid ym mhris y nwydd.
Pan mae'r cyfernod yn is nag un, caiff cyflenwad y nwydd ei ddisgrifio yn anelastig; pan mae'r cyfernod yn fwy nag un, caiff ei ddisgrifio yn elastig.[1] Mae elastigedd o sero yn dynodi nad yw'r nifer a gyflenwyd yn ymateb i newid pris; mae'r cyflenwad wedi'i 'osod'. Yn aml, nid oes gan y math hynny o nwyddau unrhyw gydran llafur neu nid ydynt yn cael eu cynhyrchu, gan gyfyngu rhagolygon rhediad byr o ehangu. Os yw'r cyfernod yn un ar ei ben, dywedir bod y nwydd yn elastig unedol.
Gall nifer y nwyddau a gyflenwir, yn y tymor byr, fod yn wahanol i'r nifer a gynhyrchir, gan y bydd gan weithgynhyrchwyr stoc y gallant ei gynyddu neu leihau.
- Argaeledd deunyddiau crai
- Er enghraifft, gallai argaeledd gyfyngu faint o aur all gael ei gynhyrchu mewn gwlad beth bynnag fo'i bris. Yn yr un modd, mae pris darluniau Van Gogh yn annhebygol o effeithio ar eu cyflenwad.[2]
- Hyd a chymhlethdod cynhyrchu
- Mae llawer yn dibynnu ar gymhlethdod y proses cynhyrchu. Mae cynhyrchu tecstiliau yn gymharol syml. Mae'r llafur ar y cyfan yn ddi-grefft a chyfleusterau cynhyrchu fawr mwy nag adeiladau - nid oes angen unrhyw strwythurau arbennig. Felly mae Elastigedd Pris y Cyflenwad ar gyfer tecstiliau yn elastig. Ar y llaw arall, mae Elastigedd Pris y Cyflenwad ar gyfer rhai mathau o foduron yn gymharol anelastig. Mae cynhyrchu ceir yn broses sydd a sawl cam iddo ac yn galw am offer arbennigol, llafur crefftus, rhwydwaith fawr o gyflenwyr a chostau ymchwil a datblygu uchel.[3]
- Symudedd ffactorau
- Os yw ffactorau cynhyrchu ar gael yn rhwydd ac os yw cynhychydd sy'n cynhyrchu un nwydd yn gallu arallgyfeirio eu hadnoddau a'u rhoi tuag at gynhyrchu nwydd y mae galw amdano, yna gellir dweud fod Elastigedd Pris y Cyflenwad yn gymharol elastig. Mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd, ac yn ei wneud yn gymharol anelastig.
- Amser i ymateb
- Po fwyaf o amser sydd gan gynhyrchydd i ymateb i newid pris, y mwyaf elastig yw'r cyflenwad. Mae cyflenwad fel arfer yn fwy elastig gyda rhediad hir nag ydyw gyda rhediad byr ar gyfer nwyddau sydd wedi'u cynhychu, gan y gellir cymryd bod holl ffactorau cynhyrchu yn gallu cael eu defnyddio i gynyddu'r cyflenwad. Llafur yn unig sy'n gallu cael ei gynyddu ar gyfer rhediad byr gyda nwyddau sydd wedi'u cynhyrchu, a hyd yn oed wedyn, gall newidiadau fod yn rhy gostus.
- Er enghraifft, nid yw ffermwr cotwm yn gallu ymateb ar unwaith (hynny yw, mewn rhediad byr) i gynnydd mewn pris ffa soya oherwydd yr amser y byddai'n ei gymryd i gael y tir angenrheidiol.
- Rhestri eiddo
- Gall cynhyrchydd sydd a chyflenwad o nwyddau neu gapasiti storio ar gael gynyddu'r cyflenwad i'r farchand yn gyflym.
- Capasiti Cynhyrchu Sbar/Gormodol
- Gall cynhyrchydd sydd a capasiti heb ei ddefnyddio ymateb yn gyflym i newidiadau mewn pris yn ei farchnad a chymryd bod ffactorau newidiol ar gael yn rhwydd. Byddai bodolaeth capasiti sbar o fewn i gwmni yn dynodol ymateb mwy cymesur ym maint y cyflenwad i newidiadau mewn pris (gan awgrymu felly elastigedd pris). Mae'n arwydd bod y cynhyrchydd yn gallu defnyddio marchnadau ffactor sbar (ffactorau cynhyrchu) ac felly yn gallu ymateb i newidiadau mewn galw gyda chyflenwad cyfatebol. Po fwyaf yw maint y capasiti cynhyrchu sbar, y cyflymaf y gall cyflenwyr ymateb i newidiadau mewn pris ac felly bydd y elastigedd pris y nwydd/gwasanaeth yn uwch.
Mae amryw o ddulliau ymchwil yn cael eu defnyddio i gyfrifo elatigedd pris, gan gynnwys dadansoddi data gwerthiant hanesyddol, cyhoeddus a phreifat, a'r defnydd o arolygon cyfredol o ddewisiadau cwsmeriaid i adeiladu marchnadoedd prawf sy'n gallu modelu elastigedd newidiadau o'r fath. Gellir hefyd defnyddio dadansoddiad unedig sy'n graddio dewisiadau defnyddwyr fel y gellir eu dadansoddi yn ystadegol.[4]
Mae'n bwysig nodi nad oes fel arfer berthynas rhwng elastigedd a goledd. Felly, pan mae cyflenwad yn cael ei gynrychioli yn llinellol, beth bynnag fo goledd y llinell gyflenwi, cyfernod elastigedd unrhyw gromlin gyflenwi linellol sy'n pasio trwy'r tarddiad yw 1 (uned elastig).[5] Mae cyfernod elastigedd unrhyw gromlin gyflewni linellol sy'n torri'r acsis-y yn fwy nag 1 (elastig) ac mae cyfernod elastigedd unrhyw gromlin gyflenwi linellol sy'n torri'r acsis-x yn llai nag 1 (anelastig). Yn yr un modd, ar gyfer unrhyw gromlin gyflenwi, mae'n debygol y bydd Elastigedd Pris y Cyflenwad yn amrywio ar hyd y gromlin.
- Olew gwresogi: 1.58 (Rhediad byr) [6]
- Gasolin: 1.61 (Rhediad byr) [6]
- Tybaco: 7.0 (Rhediad hir) [6]
- Housing: 1.6–3.7 (Rhediad hir) [6]
- Cotwm
- 0.3 (Rhediad byr) [7]
- 1.0 (Rhediad hir)
- Steel: 1.2 (Rhediad hir, o felinau bach) [8]
- Tir: 0, ac eithrio bod adenilliad tir yn digwydd
- Elastigedd pris y galw
- Croes elastigedd y galw
- ↑ Png, Ivan (1999). pp. 129–32.
- ↑ Parkin; Powell; Matthews (2002). p.84.
- ↑ Samuelson; Nordhaus (2001).
- ↑ Png, Ivan (1999). pp. 79–80.
- ↑ Research and Education Association (1995). pp. 595–97.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 Png (1999), p.110
- ↑ Suits, Daniel B. in Adams (1990), p. 19, 23. Based on 1966 USDA estimates of cotton production costs among US growers.
- ↑ Barnett and Crandall in Duetsch (1993), p.152