Cyfarwyddwr | Tim Lyn |
---|---|
Cynhyrchydd | Bethan Eames |
Ysgrifennwr | Marion Eames |
Cerddoriaeth | Robin Huw Bowen |
Sinematograffeg | Rory Taylor |
Golygydd | Bronwen Jenkins |
Sain | Tim Walker |
Dylunio | Bill Bryce |
Cwmni cynhyrchu | Teliesyn / S4C |
Dyddiad rhyddhau | 2002 |
Amser rhedeg | 94 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Ffilm Gymraeg yw Eldra a ryddhawyd yn 2002. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Tim Lyn a'i chynhyrchu gan Bethan Eames.
Cynhyrchwyd y ffilm Gymraeg Eldra gan Teliesyn i S4C. Ysgrifennwyd y script gan Marion Eames gydag Eldra Jarman y Sipsi yn adrodd ei hatgofion iddi.
Cyfansoddwyd a chanwyd y delyn deires sy'n gefndir cerddorol i'r ffilm gan Robin Huw Bowen. Eldra ddysgodd alwaon y sipsiwn iddo.
Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym Bethesda, Gwynedd yn y 1930au, cartref dros dro i Eldra, sipsi ifanc. Mae bywyd y ferch ifanc yn ynddangos fel un siwrna hir; lle mae hud a lledrith yn chwarae rhan annatod o drefn naturiol bywyd.
Ond nid yn unig mae'n rhaid i Eldra ddysgu am fywyd Romani, mae'n hanfodol iddi hefyd ddeall cyfyngiadau realti bywyd ei chyfeillion newydd a'r gormes sydd yn bodoli o fewn trefn gymdeithasol ardal y chwareli.
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr / enwebiad | Derbynnydd |
---|---|---|---|
BAFTA Cymru | 2001 | Y Ddrama Orau | Bethan Eames |
Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau | Rory Taylor | ||
Y Cynllunio Gorau | Bill Bryce | ||
Y Gwisgoedd Gorau | Pamela Moore | ||
Y Gerddoriaeth Wreiddiol Orau | Robin Huw Bowen | ||
Gŵyl Ffilm Moondance, California | 2001 | Ffilm Orau (Gwobr Ysbryd Moondance) | |
Yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd | 2001 | Gwobr y rheithgor ar gyfer perfformiad arbennig | Iona Wyn Jones |