Mewn cemeg, electroffil yw ïon neu foleciwl sy'n adweithio drwy dderbyn pâr o electronau wrth niwcleoffil. Mae gan y rhan fwyaf o electroffiliau wefr bositif, ond mae rhai moleciwlau niwtral heb yr wythawd o electronau yn ymddwyn fel electroffiliau hefyd. Gan fod electroffiliau yn derbyn pâr o electronau, asidau Lewis ydynt.
Gallant ymosod ar fondiau pi mewn alcenau fel y dengys y mecanwaith canlynol:
Gallant gyfranogi mewn adweithiau amnewid hefyd. Er enghraifft yn yr adwaith canlynol mae electroffil A+ yn ymosod ar electronau dadleoledig bensen: