Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, ras, speed skating competition |
---|---|
Math | marathon speed skating |
Dyddiad | 2 Ionawr 1909, 7 Chwefror 1912, 27 Ionawr 1917, 12 Chwefror 1929, 16 Rhagfyr 1933, 30 Ionawr 1940, 7 Chwefror 1941, 22 Ionawr 1942, 8 Chwefror 1947, 3 Chwefror 1954, 14 Chwefror 1956, 18 Ionawr 1963, 21 Chwefror 1985, 26 Chwefror 1986, 4 Ionawr 1997 |
Dechrau/Sefydlu | 2 Ionawr 1909 |
Lleoliad | Fryslân |
Rhanbarth | Fryslân |
Gwefan | https://www.elfstedentocht.frl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Elfstedentocht (Iseldireg [ɛl(ə)fˈsteːdə(n)tɔxt];), neu Alvestêdetocht ([ɔlvəˈstɛːdətɔχt]) yn Ffrisieg, sy'n golygu "Taith yr un ddinas ar ddeg," yn ras sglefrio iâ i gystadleuwyr gydag esgidiau sglefrio. Cynhelir y ras ar gamlesi yn Fryslân, ardal yng ngogledd yr Iseldiroedd. Mae llwybr y ras yn mynd trwy un ar ddeg o drefi ac mae bron i 200 cilomedr o hyd. Gellir ei chynnal adeg y gaeaf yn unig pan fo'r camlesi wedi rhewi i ddigon o ddyfnder o rew i'w gwneud yn ddiogel i sglefrio arnynt. Dyma'r gylchdaith sglefrio fwyaf yn y byd.[1]
Mae'r ras yn cychwyn ac yn gorffen yn Ljouwert (Leeuwarden), prifddinas Fryslân. Mae'r llwybr yn mynd drwy bob un o'r un ar ddeg ardal yn Fryslân, sy'n cael eu galw'n swyddogol yn "drefi." Mae'r daith, bron i 200 km (125 milltir) o hyd, yn dilyn llwybr caeëdig neu gylchol ar hyd camlesi, afonydd, a llynnoedd rhew gan ymweld â'r un ar ddeg o ddinasoedd hanesyddol Ffrisia: Leeuwarden, Sneek, IJlst, Sloten, Stavoren, Hindeloopen, Workum, Bolsward, Harlingen, Franeker, Dokkum, ac yna yn dychwelyd i Ljouwert.
Mae'r ras wedi'i chynnal 15 o weithiau. 1909 oedd blwyddyn gyntaf y digwyddiad. Cynhaliwyd y ras ddiweddaraf ar 4 Ionawr 1997. Rhaid i'r iâ'r camlesi fod o leiaf 15 cm o drwch er mwyn i'r ras gael ei chynnal.[2] Mae'n ras anodd iawn, er bod y ras yn anoddach nag eraill ers rhai blynyddoedd, yn dibynnu ar y tywydd. Roedd 1963 yn aeaf eithriadol o oer. Y flwyddyn honno, dim ond un o bob 100 o bobl a gymerodd ran a lwyddodd i orffen y ras. Pan fydd y rhew yn addas, cyhoeddir y daith ac mae yn dechrau o fewn 48 awr. Mae angen trwydded gychwynnol a bib (€100 yn 2017).[3] Rhaid i sglefrwyr gasglu stamp ym mhob dinas, ac ar dri phwynt gwirio cyfrinachol, a rhaid iddynt orffen y cwrs cyn hanner nos.
Rhoddir medalau i'r 11 dyn cyntaf a'r 5 menyw gyntaf.
Mae sôn wedi bod am sglefrwyr yn ymweld â phob un o un ar ddeg o ddinasoedd Fryslân un diwrnod ers 1760. Roedd yr Elfstedentocht eisoes yn rhan o draddodiad Fryslân pan, ym 1890, sefydlodd Pim Mulier y syniad o daith osod, a gynhaliwyd gyntaf ym 1909 pan oedd 22 o ddynion yn cystadlu.[3] Ar ôl y ras hon, sefydlwyd y Vereniging De Friesche Elf Steden (Iseldireg am "Cymdeithas Un Dref ar Ddeg Ffrisia")[4] i drefnu'r cylchdeithiau.
Ym 1912, Jikke Gaastra oedd y fenyw gyntaf erioed i orffen yr Elfstedentocht, ond nid oedd yn gallu cwblhau'r daith lawn oherwydd nad oedd y rhew yn ddigon da ar ôl Sneek. Ym 1917, Janna van der Weg oedd y fenyw gyntaf i orffen y daith lawn.
Roedd gaeafau 1939/40, 1940/41, a 1941/42 yn arbennig o ddifrifol,[5] gyda'r ras yn cael ei chynnal ym mhob un ohonynt. Yn ras 1940, a gynhaliwyd tri mis cyn ymosodiad yr Almaenwyr ar yr Iseldiroedd, dechreuodd dros 3,000 o gystadleuwyr am 05:00 ar 30 Ionawr, gyda'r pump cyntaf yn gorffen am 16:34.[6]
Daeth Elfstedentocht 1963 i gael ei hadnabod yn "Uffern '63" pan mai dim ond 69 o'r 10,000 o gyfranogwyr oedd yn gallu gorffen y ras, oherwydd y tymheredd isel iawn o -18°C gyda lluwchfeydd eira a gwynt dwyreiniol garw. Roedd yr amodau mor erchyll nes i enillydd 1963, Reinier Paping, ddod yn arwr cenedlaethol, a'r daith ei hun yn chwedlonol.[7][8] Nid oedd Paping yn gallu gweld y llinell derfyn yn dda gan ei fod yn dioddef o ddallineb eira erbyn diwedd y ras, ac roedd gan lawer o'r cystadleuwyr ewinedd a breichiau wedi torri, a llygaid wedi eu difrodi.[3]
tref | km pellter |
---|---|
Ljouwert | 0 |
Snits | 22 |
Drylts | 26 |
Sleat | 40 |
Starum | 66 |
Hylpen | 77 |
Warkum | 86 |
Boalsert | 99 |
Harns | 116 |
Frjentsjer | 129 |
Dokkum | 174 |
Ljouwert | 199 |
Ceir pryderon na fydd Alvestêdetocht arall yn cael ei chynnal byth eto oherwydd Cynhesu byd-eang. Hyd at 2023 doedd yr un ras wedi ei chynnal yn yr 21g a'r un ddiwethaf oedd yn 1997. Serch hynny dywed y trefnwyr bod dal rhaid trefnu rhifyn yn flynyddol rhag ofn bydd yr amodau'n caniatáu. Cynhyrchir cynllun manwl sy'n cynnwys oddeutu 500 o dudalennau gyda phob manylyn wedi'i drefnu eisoes erbyn 1 Rhagfyr. Nid yn unig bod rhaid pryderi a pharatoi ar gyfer tywydd ffafriol o rewllyd ond rhaid i'r trefnwyr bellach ddygymod ag enwogrwydd byd-eang y gamp a hynny mewn ychydig ddyddiau yn unig: gyda disgwyl dwy filiwn o ymwelwyr, 25,000 o gyfranogwyr, 3,000 o newyddiadurwyr yn heidio i Fryslân.[9]