Elihu Yale | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1649 Boston |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1721 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | masnachwr, casglwr celf, masnachwr caethweision |
Swydd | Rhaglaw Madras |
Tad | David Yale |
Mam | Ursula Knight |
Priod | Hieronima de Paiva, Catherine Elford |
Plant | Anne Yale, Catherine Yale, Charles Yale, David Yale, Ursula Yale |
Llinach | Yale family |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Dyn busnes o dras Gymreig oedd Elihu Yale (5 Ebrill 1649 – 8 Gorffennaf 1721). Rhoddwyd ei enw ar Brifysgol Iâl (Yale University) a Choleg Iâl, Wrecsam, sydd ers 2013 yn rhan o Goleg Cambria. Roedd hefyd yn un o berchnogion y British East India Company ac yn ddyngarwr amlwg.
O ffermdy Plas yn Iâl, Llandegla, Dyffryn Clwyd, y deuai ei rieni. Fe'i ganwyd yn Boston, Massachusetts (un o drefedigaethau Prydain bryd hynny), Ni bu yn byw yn Massachusetts ond am flwyddyn, a threuliodd weddill ei oes yng Nghymru, Lloegr ac India. Bu'n gweithio am flynyddoedd yn Madras, India, a gwrthwynebai'r defnydd o blant fel caethweision.
Fe'i claddwyd yn Eglwys San Silyn, Wrecsam.