Elin Jones

Elin Jones
AS
Llywydd Senedd Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
11 Mai 2016
DirprwyAnn Jones
Rhagflaenwyd ganRosemary Butler
Comisiynwr y Senedd
Yn ei swydd
9 Mehefin 2007 – 18 Medi 2007
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganCreuwyd y swydd
Aelod o Senedd Cymru
dros Geredigion
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 1999
Rhagflaenwyd ganCreuwyd y swydd
Mwyafrif2,408 (8.2%)
Manylion personol
Ganwyd (1966-09-01) 1 Medi 1966 (58 oed)
Llanbedr Pont Steffan
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Alma materPrifysgol Caerdydd
Prifysgol Aberystwyth

Gwleidydd o Gymru ac aelod o Blaid Cymru yw Elin Jones (ganed 1 Medi 1966). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Ceredigion ers dyfodiad y Cynulliad yn 1999. Hi yw Llywydd y Senedd ers 11 Mai 2016.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Magwyd Elin Jones ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Caerdydd gan raddio gyda BSc mewn Economeg cyn dychwelyd i Geredigion i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth a dilyn ôl-radd MSc mewn Economeg Amaethyddol. Roedd Elin yn aelod o'r grwp 'Cwlwm'.[1]

Cyflogwyd hi am gyfnod fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a chyn-gyfarwyddwr Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf..[2]

Rhwng 1992 a 1999, roedd yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth, gan ddod yn Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997–1998.

Y Cynulliad/Senedd

[golygu | golygu cod]

Etholwyd Elin yn Aelod Cynulliad Ceredigion yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, a bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygu Economaidd yn ystod y tymor cyntaf. Aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002. Deliodd yr un swyddi hyd 2006 pan benodwyd hi'n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn gwlad. Apwyntiwyd Elin yn Weinidog dros Cefn gwlad ar 9 Gorffennaf 2007, pan ffurfiwyd Llywodraeth Cymru'n un.[2]

Yng nghyfarfod cyntaf y Pumed Cynulliad ar 11 Mai 2016 fe'i enwebwyd am swydd Llywydd y Cynulliad ynghyd â Dafydd Elis-Thomas. Yn dilyn pleidlais gudd, fe'i etholwyd yn Llywydd gyda 35 pleidlais i 25.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t. 79
  2. 2.0 2.1  Ychydig mwy am Elin. elinjones.com.
  3. Penodi Elin Jones yn Llywydd newydd y Cynulliad , BBC Cymru Fyw, 11 Mai 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod o'r Senedd dros Geredigion
1999 – presennol
Olynydd:
deiliad
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Rosemary Butler
Llywydd Senedd Cymru
2016 – presennol
Olynydd:
deiliad