Elisabeth Dmitrieff | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Tachwedd 1851 ![]() Raïon de Toropets ![]() |
Bu farw | 1910s, 1919 ![]() Moscfa ![]() |
Man preswyl | Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | communard, ymgyrchydd dros hawliau merched ![]() |
Tad | Luka Kushelev ![]() |
Mam | Nataliya-Karolina Kusheleva ![]() |
Priod | Q105994751, Ivan Davidovski ![]() |
Llinach | House of Kushelev ![]() |
Ffeminist o Rwsia oedd Elisabeth Dmitrieff (ganwyd 1 Tachwedd 1851) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd a communard.
Ganed Elizabeta Luknichna Kusheleva (Rwsieg: Елизавета Лукинична Томановская (née Кушелева)) yn Raïon de Toropets a leolir heddiw yn Toropetsky, Tver Oblast ar 1 Tachwedd 1851 a bu farw yn Moscfa. Roedd yn aelod o'r hyn a elwir yn "Gymuned Paris 1871" (neu'r Commune). Ar 11 Ebrill 1871, cyd-sefydlodd Undeb y Merched, gyda Nathalie Lemel, mewn caffi ar Stryd y Deml.[1]
Roedd Elisabeth Dmitrieff yn ferch i un o swyddogion y Tsar.[2] Bu'n yn weithgar yn ei hieuenctid yng nghylchoedd Sosialaidd St Petersburg, ail ddinas fwyaf Rwsia. Yn 1868, teithiodd i'r Swistir, a chyd-sefydlodd adran Rwsia o'r First International (1864–1876), sef mudiad a geisiai uno holl fudiadau sosialaidd y byd, gan gytnnwys pleidiau, undebau a charfannau milwriaethus.[2] Fe'i danfonwyd i Lundain, ac yno, cyfarfu â Karl Marx, a'i hanfonodd ym mis Mawrth 1871, 20 oed, i gwmpasu digwyddiadau'r Commune.
Cyn hir a hwyr, daeth Dmitrieff yn gyfranogwr yn y digwyddiadau hyn, gan sefydlu gyda Nathalie Lemel, "Undeb y Merched dros Amddiffyn Paris" a Care of the Wounded ar 11 Ebrill 1871. Ymroddodd yn arbennig i gwestiynau gwleidyddol a threfnu gweithdai cydweithredol.
Cyfrannodd Elisabeth Dmitrieff at y papur newydd Sosialaidd La Cause du peuple. Ar ôl brwydro ar y barricades yn ystod "Wythnos y Gwaed", ffodd i Rwsia. Ar ôl cyrraedd ei gwlad enedigol, priododd ddyn a gafodd ei ddyfarnu'n euog o dwyll yn ddiweddarach ac yn 1878 dilynodd ef mewn alltudiaeth yn Siberia, lle bu'n byw tan 1902.
Ar 27 Mawrth 2006 penderfynodd cyngor lleol y 3ydd Arrondissement ym Mharis i roi ei henw i sgwâr baychan, rhwng y Rue du Temple a'r Rue de Turbigo, yn agos at y Place de la République. Ailenwyd Sgwâr Elisabeth Dmitrieff ar 8 Mawrth 2007, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ynghyd â'r sgwariau sy'n coffáu Nathalie Lemel a Renée Vivien (yn yr un arrondissement).
Bu'n aelod o Gymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr, Undeb Menywod Amddiffyn Paris a Gofalu am y Clwyfedig am rai blynyddoedd.