Elisabeth Noelle-Neumann | |
---|---|
Ganwyd | 19 Rhagfyr 1916 Berlin |
Bu farw | 25 Mawrth 2010 Allensbach |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwyddonydd gwleidyddol, ysgrifennwr, academydd, cymdeithasegydd |
Cyflogwr |
|
Tad | Ernst Noelle |
Mam | Eva Schaper |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Gwobr Hanns Martin Schleyer |
Gwyddonydd gwleidyddol o'r Almaen oedd Elisabeth Noelle-Neumann (19 Rhagfyr 1916 - 25 Mawrth 2010) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, academydd a chymdeithasegydd.[1][2][3][4][5]
Fe'i ganed yn Berlin, prifddinas yr Almaen a bu farw yn Allensbach a leolir yn nhalaith ffederal Baden-Württemberg, hefyd yn yr Almaen. Ei chyfraniad enwocaf yw'r model o droell distawrwydd, a ddisgrifiodd yn The Spiral of Silence : Public Opinion – Our Social Skin. Mae'r model yma'n esbonio sut y gall barn gyhoeddus ddylanwadu ar farn neu weithredoedd unigolion, pwnc hynod o gyfredol.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Missouri, Prifysgol Göttingen a Phrifysgol Königsberg.
Ganwyd Elisabeth Noelle i Ernst ac Eve Noelle ym 1916 yn Dahlem, maestref yn Berlin.[6] Aeth Elisabeth i sawl ysgol yn Berlin cyn newid i ysgol enwog 'Castell Salem', ond gadawodd flwyddyn yn ddiweddarach. Enillodd ei Abitur ym 1935 yn Göttingen ac yna astudiodd athroniaeth, hanes, newyddiaduraeth, ac astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, a Phrifysgol Königsberg Albertina. Pan ymwelodd ag Obersalzberg, ar hap, cyfarfu ag Adolf Hitler, a dywedodd yn ddiweddarach i hwn fod yn "un o'r profiadau mwyaf dwys a rhyfeddaf yn fy mywyd".
Yn 1940 gweithiodd am gyfnod byr i'r papur newydd Natsïaidd Das Reich. Ar 8 Mehefin 1941 cyhoeddodd Das Reich erthygl Noelle-Neumann o'r enw "Pwy Sy'n Rhoi Gwybodaeth i America?" lle cyhoeddodd y syniad bod syndicet Iddewig yn rhedeg y cyfryngau Americanaidd. Ysgrifennodd, "Mae Iddewon yn ysgrifennu yn y papur, yn berchen arnynt, wedi monopoli'r asiantaethau hysbysebu fwy neu lai ac felly gallant agor a chau gatiau incwm hysbysebu fel y dymunant." Cafodd ei diswyddo wedi iddi gyfnewid lluniau anffafriol o Franklin D. Roosevelt am rai gwell. Yna bu’n gweithio i’r Frankfurter Zeitung nes iddo gael ei gwahardd ym 1943.
Ym 1947 sefydlodd hi a'i gŵr cyntaf Erich Peter Neumann sefydliad ymchwilio i farn gyhoeddus - yr Institut für Demoskopie Allensbach, sydd heddiw yn un o'r sefydliadau pleidleisio mwyaf adnabyddus a mwyaf mawreddog yr Almaen. Hi, ynghyd â’i gŵr, a greodd y corff pleidleisio barn Almaeneg cyntaf.
Rhwng 1964 a 1983 bu'n athro ym Mhrifysgol Mainz Johannes Gutenberg.
Yn 1991, beirniadodd Leo Bogart Noelle-Neumann yn hallt, gan ei chyhuddo o ddarnau gwrth-Semitaidd yn ei thraethawd hir ac erthyglau a ysgrifennodd ar gyfer papurau newydd y Natsïaid. Yn fenyw ifanc, roedd ganddi "gymwysterau gwych fel actifydd ac arweinydd" sefydliadau ieuenctid a myfyrwyr y Natsïaid, dywedodd.[7] Ond mewn gwirionedd, pan gyhoeddodd ei thraethawd hir yn yr Almaen yn 1940, o'r enw "Barn ac ymchwil dorfol yn UDA", ar ôl treulio blwyddyn ym Mhrifysgol Missouri yn ymchwilio i fethodoleg George Gallup, gwahoddodd Joseph Goebbels hi i sefydlu uned ymchwilio i farn gyhoeddus yn yr Almaen, ond gwrthododd wneud hynny. Ffyrnigwyd Goebbels yn fawr gan ei hymateb.
Mewn llythyrau preifat cydnabu Noelle-Neumann ei bod mewn sefydliad Natsïaidd pan oedd yn fyfyriwr ond gwadodd ei bod yn Natsi. "Mae dioddefaint Iddewon yn yr Almaen Natsïaidd wedi fy mhoenydio," ysgrifennodd. Roedd Bogart, Mearsheimer ac eraill yn parhau i fod yn anfodlon ar ei hymateb.[8][9]