Y grêd y dylai cymdeithas gael ei harwain gan elît—grŵp bach o bobl ddethol—yw elitiaeth.[1] Yn aml defnyddir y gair yn ddifrïol, i ddisgrifio agwedd neu ymddygiad ffroenuchel, snobyddlyd, neu i gyhuddo credoau neu bolisïau penodol o fod yn annheg neu'n wahaniaethol. Yn ei ystyr ysgolheigaidd, cyfeirir y term hefyd at ddamcaniaethau sydd yn ymwneud â'r rhai sydd yn rheoli cymdeithasau a llywodraethau ac sydd yn ceisio deall pam fod grym a rheolaeth yn cael eu crynhoi mewn dwylo carfan fechan o bobl.
Cred neu ideoleg wleidyddol yw elitiaeth normadol sydd yn dal taw trefn ddymunol ydy rheolaeth gan yr elît, fel arfer ar sail y ddadl y dylai grym cael ei ymddiried i leiafrif o bobl ddoeth neu oleuedig. Mae elitiaeth normadol yn groes i ddemocratiaeth. Enghraifft o'r ddamcaniaeth hon yw llywodraeth yr athronwyr-frenhinoedd a argymhellir gan Platon yn Y Wladwriaeth.
Mae elitiaeth glasurol yn honni ei bod yn ddisgrifiadol yn hytrach na normadol, hynny yw, damcaniaeth empiraidd, realaidd, sydd yn cydnabod natur anochel rheolaeth elitaidd. Yn ôl y safbwynt hwn, rhithiau yw syniadau egalitaraidd megis democratiaeth a sosialaeth, Datblygwyd y ddamcaniaeth hon gan feddylwyr megis Vilfredo Pareto, Gaetano Mosca, a Robert Michels yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.[2]
Damcaniaeth ddisgrifiadol hefyd yw elitiaeth fodern, sydd yn haeru dadansoddi rheolaeth elitaidd trwy ddulliau mwy beirniadol nag elitiaeth glasurol. Bu ysgolheigion yn yr 20g megis C. Wright Mills yn trin a thrafod achosion rheolaeth elitaidd yn nhermau strwythurau economaidd a gwleidyddol penodol yn hytrach na chymdeithas neu natur ddynol yn gyffredinol.[2]