Elizabeth Maconchy | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mawrth 1907 Broxbourne |
Bu farw | 11 Tachwedd 1994 Norwich |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Tad | Gerald Edward Campbell Maconchy |
Priod | William LeFanu |
Plant | Elizabeth Anna Le Fanu, Nicola LeFanu |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Walter Willson Cobbett Medal |
Cyfansoddwraig Seisnig o dras Wyddelig oedd y Fonesig Elizabeth Violet Maconchy (19 Mawrth 1907 – 11 Tachwedd 1994).
Cafodd ei geni yn Broxbourne, Swydd Hertford. Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd, Llundain (1923–9), lle roedd ei hathrawon yn cynnwys Charles Wood a Vaughan Williams. Yn ddiweddarach astudiodd yn Prag gyda'r cyfansoddwr Karel Boleslav Jirák.
Ym 1930 priododd William LeFanu; bu iddynt ddwy ferch, yr ieuengaf ohonynt oedd y cyfansoddwraig Nicola LeFanu.