Ganed Ellen Helga Louise Hagen yn Jakobs församling ar 15 Medi1873 a bu farw yn Plwyf Täby, Esgobaeth Stockholm. Roedd yn ferch i'r offeiriad a'r awdur Bernhard Wadström. Priododd Roger Hagen, llywodraethwr rhanbarth Gävleborg. Roedd y llysgennadTord Hagen yn blentyn iddi.[1][2][3][4][5][6][7][8]
Roedd yn weithredwr ac yn wleidydd a ymladdodd dros hawliau menywod a bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Pleidlais y Menywod (National Association for Women's Suffrage), yn gadeirydd Liberala kvinnor (Menywod Rhyddfrydol) ym 1938–1946 a Svenska Kvinnors Medborgarförbund (Cymdeithas Dinasyddion Menywod Sweden) ym 1936–1963. Yn ystod y 1920au a'r 1930au, roedd yn weithgar yn rhyngwladol o fewn maes heddychiaeth a chynrychiolydd Sweden yn y gynhadledd heddwch ryngwladol ym Mharis yn 1931.
Roedd yn weithgar fel siaradwr ar gyfer Countryrage for Women's Suffrage. Disgrifir hi fel siaradwr rhugl iawn, a gwerthfawrogwyd ei chyfraniad: trwy ei chysylltiadau, enillodd y mudiad gefnogwyr o'r dosbarth uchaf, na fyddent fel arall yn barod i wrando ar araith am yr hawl i fenywod bleidleisio (etholfraint), a thrwy ei ffordd hyfryd o wisgo fe brofodd yn anghywir fod pob swffragét yn "wrywaidd". Cyflawnwyd pleidlais i fenywod yn Sweden ym 1919.
[9][10][11]
Wedi marwolaeth ei gŵr, gwahoddwyd hi, gan lywodraeth Sweden i barhau fel Llywodraethwr Gävleborg ond dewisiodd, yn hytrach, fod yn olygydd y cylchgrawn ffeministaidd Tidevarvet.[12]
↑Galwedigaeth: "Ellen Helga Louise Hagen". dyddiad cyrchiad: 20 Awst 2020. "Ellen H L Hagen". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500. dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017. tudalen: 734. "Ellen Helga Louise Hagen". dyddiad cyrchiad: 20 Awst 2020. "Ellen Helga Louise Hagen". dyddiad cyrchiad: 20 Awst 2020.