Ellen Key

Ellen Key
GanwydEllen Karolina Sofia Key Edit this on Wikidata
11 Rhagfyr 1849 Edit this on Wikidata
Gladhammars Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Västra Tollstads församling Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethcyfieithydd, llenor, critig, addysgwr, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
MudiadModern Breakthrough Edit this on Wikidata
TadEmil Key Edit this on Wikidata
MamSofia Ottiliana Posse Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur Ffeministaidd o Sweden oedd Ellen Key (11 Rhagfyr 1849 - 25 Ebrill 1926) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfieithydd, critig, addysgwr a swffragét. Roedd yn eiriolwr cynnar dros addysg a rhianta sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Ond ei gwaith pwysicaf, o bosib, yw ei llyfr ar addysg, sef Barnets århundrade (1900), a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1909 gyda'r teitl The Century of the Child.[1]

Fe'i ganed yn "Mhlas Sundsholm" yn Gladhammars, ardal Småland o Sweden, bu farw yn Västra Tollstads församling yn 76 oed ac fe'i claddwyd yn Västervik, hefyd yn Småland.[2][3][4][5][6][7][8][9]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Ei thad oedd Emil Key, sylfaenydd Plaid Amaethyddol Sweden a chyfrannodd yn aml at y papur newydd Swedeg Aftonposten. Ei mam oedd Sophie Posse Key, a aned i deulu aristocrataidd o'r rhan fwyaf deheuol o Sir Skåne. Prynodd Emil Plas Sundsholm adeg ei briodas; ugain mlynedd yn ddiweddarach fe'i gwerthodd am resymau ariannol.[10]

Yr awdur

[golygu | golygu cod]

Cafodd Ellen ei haddysgu gartref yn bennaf, lle dysgodd ei mam ramadeg a rhifyddeg iddi a bu ganddi governess hefyd a ddysgodd ieithoedd tramor. Cofnododd Ellen iddi i'r llyfrau canlynol ddylanwadu arni: Amtmandens Døtre (Merched y Swyddog, 1855) gan Camilla Collett a dramâu Henrik Ibsen Kjærlighedens komedie (Comedi Cariad, 1862), Brand (1865) a Peer Gynt (1867). Pan oedd hi'n ugain oed, etholwyd ei thad i'r Riksdag (Senedd y wlad) a symudon nhw i Stockholm, lle manteisiodd ar lyfrgelloedd y ddinas. Astudiodd Ellen Key hefyd ar y cwrs newydd Rossander.[11]

Symudodd i Denmarc yn 1874, i un o'r colegau ac erbyn 1880, roedd yn athrawes yn Ysgol Ferched Anna Whitlock yn Stockholm.[10] Yn 1883, dechreuodd Key addysgu yn ysgol newydd Anton Nyström, Sefydliad y Bobl, a sefydlwyd ym 1880.

Ar ddiwedd y 1880au a dechrau'r 1890au, penderfynodd Key ysgrifennu bywgraffiadau ar fenywod a oedd â rolau amlwg ym mywyd deallusol Sweden: Victoria Benedictsson, Anne Charlotte Leffler, a Sonia Kovalevsky. Byddai hefyd yn ysgrifennu am Johann Wolfgang von Goethe a Carl Jonas Love Almqvist.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
  • Individualism and Socialism (1896)
  • Images of Thought (1898)
  • Human-beings (1899)
  • Lifelines, volumes I-III (1903–06)
  • Neutrality of the Souls (1916).

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gartref y Swedeg, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [12]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Barnets århundrade ar 'Project Runeberg'
  2. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
  3. Disgrifiwyd yn: "Ellen K S Key". http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. https://www.bartleby.com/library/bios/index9.html.
  4. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
  5. Dyddiad geni: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Gladhammars kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/VALA/00098/C/7 (1842-1860), bildid: A0015078_00024". Cyrchwyd 6 Ebrill 2018. Ellen Carolina? Sofie,11,20, föräldrar? ? Kongl. Sekret. Emil Key och dess ??? Sofi "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Karolina Sofia Key". "Ellen Key". "Ellen Key".
  6. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Ellen K S Key". "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ellen Key". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Västra Tollstads kyrkoarkiv, Död- och begravningsböcker, SE/VALA/00452/F/1 (1912-1940), bildid: 00020694_00028". t. 24. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018. 5, (apr) 25,,1,Ellen Karolina SOfia Key, författarinna från Strand inder Ormbergs kronopark,(18)49 11/12....2229, arteris.cardioskeos + blödningar i hjärn?? "Västra Tollstads kyrkoarkiv, Församlingsböcker. Bunden serie, SE/VALA/00452/A II a/4 (1923-1934), bildid: 00020682_00228". t. 229. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018. Ormbergs Kronopark, Strand äg. Ellen Karolina Sofia Key Författarinna (18)49,11/12,Gladhammar..... "Ellen Karolina Sofia Key".
  7. Man geni: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Gladhammars kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/VALA/00098/C/7 (1842-1860), bildid: A0015078_00024". Cyrchwyd 6 Ebrill 2018. Ellen Carolina? Sofie,11,20, föräldrar? ? Kongl. Sekret. Emil Key och dess ??? Sofi
  8. Man claddu: "Key, Ellen Karolina Sofia". Cyrchwyd 15 Ebrill 2023.
  9. Tad: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90.
  10. 10.0 10.1 Wilkinson, Lynn R. (2002). Twentieth-Century Swedish Writers Before World War II. Farmington Hills, Michigan: Gale. ISBN 978-0-7876-5261-6.
  11. Ambjörnsson, Ronny, Ellen Key: en europeisk intellektuell, Bonnier, Stockholm, 2012
  12. Galwedigaeth: "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90. "Ellen K S Key". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 11453. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2017. tudalen: 90.