Ellie Leach | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mawrth 2001 Bury |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Actores Seisnig yw Ellie Louise Leach (ganwyd 15 Mawrth 2001), sy'n adnabyddus am ei rôl fel Faye Windass ar opera sebon ITV Coronation Street rhwng 2011 a 2023. Ar ôl iddi adael y gyfres, enillodd yr unfed gyfres ar hugain o'r cystadleuaeth teledu Strictly Come Dancing.
Cafodd Leach ei geni ym Manceinion.[1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Uwchradd Fairfield i Ferched.[2] [3][4] [5]
Dechreuodd Leach ei gyrfa gan ymddangos mewn hysbysebion teledu. [6] Yn 2009, ymddangosodd hi yn y ffilm A Boy Called Dad. [7]
Yn 2011, cafodd ei chastio ar yr opera sebon ITV Coronation Street . [8] Gadawodd y gyfres ar ôl deuddeg mlynedd. [9] [10]
Ar ôl iddi adael Coronation Street, ymunodd Leach i ymddangos fel cystadleuydd ar ycystadleuaeth ddawns y BBC Strictly Come Dancing. [11] Roedd hi'n bartner gyda'r dawnswr proffesiynol Vito Coppola.[12] [13] Yn 22 oed, hi oedd yr enwog ieuengaf i ennill y sioe.