Emma Raducanu | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 2002 Toronto |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Canada Y Deyrnas Unedig Rwmania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Prif ddylanwad | Li Na, Simona Halep |
Taldra | 1.75 metr |
Gwobr/au | Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WTA Newcomer of the Year, MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Great Britain Billie Jean King Cup team |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Emma Raducanu (Rwmaneg: Emma Răducanu; ganwyd 13 Tachwedd 2002) yn chwaraewr tenis proffesiynol sy'n chwarae dros y Deyrnas Unedig. Mae hi wedi ennill tri theitl sengl ar Gylchdaith ITF. Mae ganddi safle sengl uchel ei gyrfa o fyd Rhif 150 a gyflawnwyd ar 23 Awst 2021.
Cafodd Raducanu ei geni yn Toronto, Ontario, Canada, yn ferch i Ion Răducanu a Renée, sy'n tarddu o Bucharest, Romania a Shenyang, Tsieina.[1][2] Symudodd ei theulu i Brydain pan oedd hi'n ddwy oed.[3] Dechreuodd chwarae tenis yn bump oed.[4] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Newstead Wood, ysgol ramadeg ddethol ym Mwrdeistref Bromley yn Llundain.[5][6]
Cododd Raducanu i amlygrwydd yn 2021. Yn rhif 338 yn y byd, fe gyrhaeddodd y bedwaredd rownd ar ei hymddangosiad cyntaf fel cerdyn gwyllt ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2021. [7] Fe helpodd hyn Raducanu i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pan ddaeth yn gymhwysydd y Cyfnod Agored cyntaf i ennill y twrnamaint.[8][9]
Ym mis Ionawr 2022, cafwyd dyn yn euog o stelcian Raducanu. Dywedodd ei bod yn ofni mynd allan ar ei phen ei hun.[10] Ym mhencampwriaeth senglau Wimbledon yn 2022, trechwyd hi yn yr ail rownd gan Caroline Garcia.[11]