Emyr Jones Parry | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Medi 1947 ![]() Sir Gaerfyrddin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd ![]() |
Swydd | Permanent Representative of the United Kingdom to NATO, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, Efrog Newydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg ![]() |
Diplomydd o Gymru yw Syr Emyr Jones Parry (ganwyd 21 Medi 1947). Roedd yn Gynrychiolydd y Deyrnas Unedig i NATO o 2001 hyd 2003, a Chynrychiolydd y DU i'r Cenhedloedd Unedig o 2003 hyd 2007. Penodwyd yn gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn 2007, ac ers 2008 ef yw Llywydd Prifysgol Aberystwyth.
Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Gwendraeth cyn iddo astudio ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd; yno bu'n llywydd Undeb y Myfyrwyr cyn iddo dderbyn gradd PhD am waith ar bolymerau yng Ngholeg y Santes Catrin, Caergrawnt.
Mae Parry'n briod â Lynn ac mae ganddyn nhw ddau o fechgyn: Mark a Paul. Mae'n aelod brwd o Glwb Criced Morgannwg a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.[1]