Enghraifft o: | plaid wleidyddol ![]() |
---|---|
Idioleg | English nationalism ![]() |
Daeth i ben | 14 Mehefin 2012 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2 Medi 2003 ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | http://efp.org.uk/ ![]() |
Plaid genedlaetholgar Seisnig fechan yw'r England First Party (EFP) (Plaid Lloegr yn Gyntaf). Roedd ganddi ddau gynghorydd ar Gyngor Blackburn gyda Darwen rhwng 2006 a 2007. Mae'n cael ei chyfrif yn blaid asgell dde eithafol ac mae rhai yn ei disgrifio fel plaid neo-Natsïaidd.
Fe'i ffurfiwyd yn 2004 gan Mark Cotterill a fu'n sylfaenydd ac ymgeisydd Ffrindiau Americanaidd Plaid Genedlaethol Prydain (BNP). Beth bynnag, dechreuodd ef anghytuno â Phlaid Genedlaethol Prydain yn wleidyddiol, ac felly sefydlodd EFP ar ôl gadael Plaid y Cenedlaetholwyr Gwyn (White Nationalist Party).[angen ffynhonnell]
Mae Plaid Lloegr yn Gyntaf wedi beirniadu cenedlaetholdeb Prydeinig ac yn cefnogi cenedlaetholdeb Seisnig. Roedd y mwyafrif o'u haelodau yn gynaelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, fel ei hymgeisydd, Mark Cotterill.[angen ffynhonnell]
Mae Plaid Lloegr yn Gyntaf hefyd yn credu mai goddefgarwch tuag at bobl hoyw sy'n gyfrifol fod yr afiechyd AIDS yn lledu.[1]
Mae polisïau'r blaid ar gyfer Lloegr yn cynnwys:[2]