Math | plasty gwledig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Lleoliad | Marchwiail |
Sir | Marchwiail |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 88.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.0272°N 3.0066°W |
Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Perchnogaeth | John Meller, Philip Yorke, Simon Yorke, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Philip Scott Yorke, teulu York |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy ac ystâd gerllaw Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Erddig. Mae yn awr yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Saif rhyw ddwy filltir i'r de o ganol tref Wrecsam.
Fe'i adeiladwyd yn 1684–1687 ar gyfer Joshua Edisbury, uchel siryf Sir Ddinbych, a'i gynllunio gan Thomas Webb. Fe'i gwerthwyd i John Meller yn 1718, ac ehangwyd yr adeilad ganddo ef. Ar ei farwolaeth ef yn ddi-blant yn 1733, etifeddwyd y plasdy gan ei nai Simon Yorke. Bu yn eiddo i deulu Yorke hyd 1973, pan roddwyd ef i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y mwyaf adnabyddus o'r teulu oedd Philip Yorke (1743–1804), awdur The Royal Tribes of Wales.
Mae ystâd Erddig yn cynnwys gerddi, coedwigoedd a pharcdir eang gyda sawl nodwedd bensaernïol.