Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 4,373, 3,166, 2,960, 4,166, 1,788 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Euboea |
Sir | Bwrdeistref Eretria |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 169 km² |
Uwch y môr | 8 metr |
Cyfesurynnau | 38.40097°N 23.8022°E |
Cod post | 340 08 |
Tref a chymuned ar ynys Euboea yng Ngwlad Groeg yw Eretria. Roedd y boblogaeth yn 5,969 yn 2001.
Yn y cyfnod cynnar, Eretria oedd dinas bwysicaf Euboea ar ôl Chalcis. Cefnogodd wrthryfel y Groegiaid Ionaidd yn erbyn Ymerodraeth Persia, ac o ganlyniad, dinistriwyd y ddinas yn 490 CC gan y cadfridogion Persaidd Datis ac Artaphernes. Ail-adeiladwyd y ddinas, a daeth yn rhan o Gynghrair Delos.
Yn 198 CC, dinistriwyd y ddinas eto, y tro hwn gan y Rhufeiniaid. Wedi hynny, collodd ei phwysigrwydd.