Eruca sativa | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Brassicales |
Teulu: | Brassicaceae |
Genws: | Eruca |
Rhywogaeth: | E. sativa |
Enw deuenwol | |
Eruca sativa Mill. |
Planhigyn bwytadwy a llysieuyn rhinweddol ydy Eruca sativa (syn. E. vesicaria subsp. sativa (Miller) Thell., Brassica eruca L.) a adnabyddir yn Gymraeg fel dail roced ac yn yr Unol Daleithiau fel arugula. Caiff weithiau ei gamgymryd am lysieuyn tebyg, sef Diplotaxis tenuifolia sydd hefyd yn blanhigyn bwytadwy, yn enwedig mewn salad.
Mae'n perthyn i deulu'r fresychen (Brassicaceae). Mae'n frodorol o wledydd y Môr Canoldir: o Foroco a Phortiwgal yn y gorllewin i Syria, Libanus a Thwrci yn y dwyrain.[1][2]
Daw'r gair Lladin sativa o'r gair hynafol am 'hau' (sef sero), oherwydd yr arferiad o'u hau mewn gerddi er mwyn eu tyfu a'u bwyta.[3][4]
Gall dyfu i uchder o 20–100 centimetr (8–39 mod) ac mae'r blodau yn 2–4 cm (0.8–1.6 mod) mewn diametr, gyda phetalau o liw hufen neu wyn a briger melyn. Caiff y sepalau eu diosg wrth i'r petalau agor. 12–35 milimetr (0.5–1.4 mod) yw maint y ffrwyth ac mae ganddo 'big' hir sy'n cynnwys hadau bwytadwy. Rhif cromoson y rhywogaeth hwn yw 2n = 22.[2][4][5]
Tyf yr Eruca sativa fel arfer mewn tir sych, heb ei drin ac mae larfa sawl gwyfyn yn hoff iawn o'i fwyta, gan gynnwys Brychan yr ardd.[2][4]
O ran ei flas a'i arogl, mae'n llysieuyn eitha cryf ac mae'n gyfoethog iawn o ran y fitamin sydd ynddo: fitamin C a photasiwm.[6] Gellir bwyta ei ddail, ei flodau a'r codeni hadau.
Fe'i tyfwyd gan y Rhufeiniaid fel affrodisiac,[7][8] a chyfeirir ato gan Vergil mewn cerdd enwog sy'n cynnwys y linell: "et veneris revocans eruca morantuem" ("mae'r roced yn cyffroi chwant pobl blinedig"). Soniwyd amdano yn y flwyddyn 802 gan Siarlymaen fel un o'r blodau a ddylai fod ym mhob gardd.[9]