Ymddygiad lle mae'r diffynnydd wedi achosi niwed neu ddifrod i'r hawlydd drwy fethu â bodloni rhai safonau ymddygiad disgwyliedig yw esgeuluster. Gall ymddygiad esgeulus fod yn dorcontract neu fod yn gyfreithadwy yng nghyfraith camwedd. Er mwyn bod yn gymwys i ddwyn achos camwedd am esgeuluster rhaid bod y diffynnydd wedi torri dyletswydd gofal a oedd yn ddyledus i'r hawlydd, a rhaid mai dyna achos y golled neu'r difrod dan sylw. Fodd bynnag, gellir trechu'r hawliad hwn o hyd os ystyrir bod y golled neu'r difrod yn rhy bellennig, neu os yw'r diffynnydd yn medru codi amddiffyniad i'r achos.[1]