Mae esgoriad ffolennol yn digwydd pan gaiff babi ei eni tin yn gyntaf yn hytrach na phen yn gyntaf. Ffolen (lluosog: ffolennau) yw boch tin / pen ôl[1].
Bydd gan ryw 3-5% o ferched beichiog yn ystod eu llawn dymor (37-40 wythnos yn feichiog) babi sy’n cyflwyno ar ei ffolennau[2]. Caiff y rhan fwyaf o fabanod yn y safle ffolennol eu geni trwy doriad Cesaraidd gan ei fod yn cael ei ystyried yn fwy diogel na geni trwy'r wain[3].
Mae mathau gwahanol o gyflwyniad ffolennol sy'n dibynnu ar sut mae coesau'r babi yn gorwedd.
Cyflwyniad ffolennol didwyll yw un lle mae coesau'r babi wrth ymyl ei abdomen, gyda'i bengliniau yn syth a'i draed wrth ymyl ei glustiau. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ymddangosiad ffolennol.
Cyflwyniad ffolennol hyblyg yw un lle fydd y babi yn ymddangos fel pe bai'n eistedd yn groes-coes gyda'i goesau yn plygu ar y cluniau a'r pen-gliniau.
Cyflwyniad ffolennol troed flaen yw un lle fydd un neu ddau o draed y babi yn ymddangos yn gyntaf yn lle'r ffolennau. Mae hyn yn fwy cyffredin mewn babanod a anwyd yn gynamserol neu cyn eu dyddiad priodol.
Mewn tua 50% o achosion, ni ellir canfod achos dibynadwy am esgor ffolennol. Mewn mwy na 50% o achosion bydd y fam yn esgor ar ei phlentyn cyntaf-anedig. Mewn astudiaeth Norwyaidd, dangoswyd bod perthynas genetig neu deuluol: roedd dynion a menywod, a oedd wedi eu hesgor yn ffolennol 2.3 gwaith mwy tebygol o gael plentyn trwy esgoriad ffolennol na'r rhai a anwyd pen yn gyntaf.[4]
Mae ffactorau posib, sy'n ymwneud a'r plentyn a'r groth am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys:
Os yw'r babi yn dal i fod yn y safle ffolennol wedi 37 wythnos, efallai y bydd yn bosibl i obstetregydd ei droi yn ben i lawr gan ddefnyddio techneg o'r enw fersiwn ceffalig allanol (external cephalic version neu ECV)[5].. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel obstetregydd, yn ceisio troi'r babi i mewn i safle pen-i-lawr trwy roi pwysau ar yr abdomen. Mae'n weithdrefn ddiogel, er y gall fod ychydig yn anghyfforddus. Gellir troi tua 50% o fabanod ffolennol trwy ddefnyddio ECV, gan ganiatáu geni normal trwy'r wain.
Os bydd babi yn parhau i fod yn safle ffolennol tuag at ddiwedd beichiogrwydd, bydd y fam yn cael cynnig opsiwn toriad Ceseraidd. Mae ymchwil wedi dangos bod toriad Ceseraidd a gynlluniwyd yn fwy diogel ar gyfer y babi nag esgoriad ffolennol trwy'r wain[6].
↑The New Atheist Crusaders and Their Unholy Grail: The Misguided Quest to Destroy Your Faith; Awdur Garrison, Becky; Cyhoeddwr Thomas Nelson Inc, 2008; tud 34